MAE S4C wedi penodi tri aelod bwrdd anweithredol at ei bwrdd masnachol.
Yn dilyn proses agored, bydd Richard Johnston, Luci Sanan ac Oliver Lang yn ymuno â’r Bwrdd fis Chwefror gan ddod â phrofiad ac arbennigedd helaeth.
Mae Richard Johnston yn gyn Brif Swyddog Gweithredol Endemol Shine UK - grŵp cynhyrchu a dosbarthu cynnwys blaenllaw yn y DU ac yn fyd-eang. Bu hefyd yn Gadeirydd ScreenSkills, y corff sgiliau ar gyfer y sector sgrin, o 2017 i 2024.
Mae gan Luci Sanan brofiad eang o greu incwm masnachol o gynnwys, eiddo deallusol a brandiau, gan gynnwys yn ddigidol, gan weithio gyda hysbysebwyr ac asiantaethau. Mae hi bellach yn cynghori gwahanol gleientiaid yn y sector drwy ei chwmni, 53 Degrees North Media.
Gweithiodd Oliver Lang am flynyddoedd yn y BBC a BBC Worldwide (nawr BBC Studios) cyn sefydlu cwmni ymgynghori ei hun, Silbury Coaching & Consulting.
Mae ganddo ddealltwriaeth ddwys o ochr fasnachol a busnes y sector gynhyrchu. Mae eisoes wedi cefnogi bwrdd masnachol S4C i ddatblygu strategaeth fasnachol.
Meddai Geraint Evans, prif weithredwr S4C a chadeirydd y bwrdd masnachol: “Rydym yn gyffrous iawn i groesawu Richard, Luci ac Oliver i S4C ac wedi ein plesio’n fawr gan y safon uchel a’r cymysgedd o brofiad a sgiliau rydym wedi eu denu. Rwy’n siwr y byddwn yn elwa’n fawr o’u mewnbwn wrth i ni barhau i ddatblygu’n strategaeth fasnachol.”
Wrth ymateb i'r apwyntiad, dywed Richard Johnston: “Dwi’n falch i ymuno â S4C ac yn edrych ymlaen i helpu gwthio economi greadigol Cymru ymlaen gyda egni, a chynyddu refeniw ac effaith masnachol S4C ymhellach.”
Meddai Luci Sanan: “Fedra i ddim aros i ddechrau gweithio gyda Richard ac Oliver er mwyn cefnogi ein cydweithwyr o fewn S4C i wneud y mwyaf o botensial masnachol y sianel. Mae’r sector greadigol yng Nghymru eisoes yn cyflawni tu hwnt i’r disgwyl ac rwy’n gyffrous i weld beth ddaw nesaf.”
Meddai Oliver Lang: “Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n gyfarwyddwr anweithredol ar gyfer S4C Masnachol. Rwy’n credu bod cyfleoedd masnachol a chreadigol gwirioneddol i S4C wrth iddi feithrin cysylltiadau dyfnach byth â’i chynulleidfa a'i phartneriaid gyda thalent greadigol ac entrepreneuraidd anhygoel ledled Cymru.”
Mae S4C yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus sydd â rôl unigryw i gomisiynu, creu a dosbarthu cynnwys Cymraeg ar draws ystod o blatfformau, gan gyrraedd cynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt.
Mae S4C yn gorff cyhoeddus sy'n atebol i'r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ac mae’n derbyn ei chyllid o ffi'r drwydded.
Mae'n ategu'r cyllid hwn gydag incwm ychwanegol a gynhyrchir gan weithgareddau masnachol. Cynhelir y gweithgareddau masnachol hyn trwy is-gwmnïau o dan berchnogaeth lwyr S4C, sy'n cael eu rheoli a'u goruchwylio gan fwrdd masnachol.