AR ail Sadwrn mis Chwefror, braf oedd croesawu wynebau newydd ynghyd â'r cefnogwyr selog i Ganolfan Abergynolwyn i'r Eisteddfod Flynyddol.

Y ddau feirniad fu wrthi'n cloriannu y cystadlaethau llwyfan oedd Steffan Prys Roberts, Llanuwchllyn (Cerdd a Cherdd Dant) a Meinir Lloyd Jones, Glaspwll (Llefaru).

Roedd yn bleser cael eu cwmni a diolchwyd iddynt am eu gwaith a'u hannogaeth gydol y ddau gyfarfod.

Delyth Medi, Trawsfynydd, fu’n gosod testunnau a beirniadu y gwaith Llên a Rhyddiaith gan ddenu ymgeiswyr o Fôn i Fynwy, a diolchwyd am ei phresenoldeb yng nghyfarfod yr hwyr i draddodi wedi’r darllen.

Tudur Jones, Tywyn yn ôl yr arfer fu'n cyfeilio i'r unawdwyr gydol y dydd a diolchwyd am ei wasanaeth ac am gael cyfeilydd mor ddawnus ym Mro Dysynni.

Unawdwyr yr Unawd Gymraeg
Unawdwyr yr Unawd Gymraeg ( )

Rhoddwyd diolchiadau i bawb a ddaeth i gystadlu ymhell ac agos, ac roedd presennoldeb disgyblion Ysgol Craig y Deryn yn amlwg yn eu siwmperi coch yn ystod y prynhawn.

Roedd rhai yn mentro ar y llwyfan am y tro cyntaf, neu'n rhoi cynnig ar gystadleuaeth newydd gan gadarnhau pwysigrwydd yr eisteddfodau bach i ennill profiad a hyder ar lwyfan.

Y beirniaid gwaith cartref cynradd eleni oedd Arwel a Gwenfair Pierce (llenyddiaeth) a Mercia Hammond (celf) - roeddent wedi eu plesio yn fawr ac yn llongyfarch safon y cystadlu.

Llywydd y dydd Eileen Jones
Llywydd y dydd Eileen Jones ( )

Mrs Eileen Jones, neu Eileen Abertrinant fel mae’r mwyafrif yn ei hadnabod yn lleol, oedd Llywyddes y dydd.

Yn gefnogwr brwd o holl ddigwyddiadau y pentref ac wedi bod yn weithgar iawn yn y gymuned yn ogystal â chyn-ysgrifennydd yr Eisteddod bu’n dwyn i gof y gwaith a’r hwyl o drefnu a phwysigrwydd cynnal a chefnogi yr eisteddfodau bach.

Testun balchder personnol iddi oedd derbyn tystysgrif Cymdeithas Eisteddfodau Cymru am ei chyfraniad i Steddfod yr Aber.

Prif lefarwyr
Prif lefarwyr ( )

Diolchwyd y ddau a fu'n arwain gydol y dydd - y Cyng Beth Lawton ac Edward Tudor Jones.

Gwerthfawrogwyd cefnogaeth pawb er llwyddiant a pharhad yr Eisteddfod, a dymuna'r pwyllgor gydnabod yn ddiolchgar yr holl noddwyr a charedigion. Hebddynt ni fyddai ffyniant yr eisteddfod Flynyddol.

Canlyniadau'r dydd:

Unawd dan 5: Elis, Ysgol Craig y Deryn.

Unawd Bl. 2 ac iau: 1af Gwilym Pennant, Llanbrynmair; 2il Efa Mahalan, Corwen; 3ydd Bailey, Ysgol Craig y Deryn.

Llefaru Bl. 2 ac iau: 1af Gwilym Pennant, Llanbrynmair.

Unawd Bl. 3 a 4: 1af Annes Euros, Llangybi; 2il Evie, Ysgol Craig y Deryn; =3ydd Owain, Bella a Megan, Ysgol Craig y Deryn.

Cystadleuwyr a buddugwyr Bl 2 ac iau ac o dan 5 oed
Cystadleuwyr a buddugwyr Bl 2 ac iau ac o dan 5 oed ( )

Llefaru Bl. 3 a 4: 1af Annes Euros, Llangybi; 2il Owain, Ysgol Craig y Deryn.

Unawd Cerdd Dant Bl. 6 ac iau: 1af Annes Euros, Llangybi.

Unawd Bl. 5 a 6: 1af Aron Wyn, Llanbrynmair; 2il Isla, Ysgol Craig y Deryn.

Llefaru Bl. 5 a 6: 1af Aron Wyn, Llanbrynmair.

Unawd Alaw Werin Bl. 6 ac iau: 1af Annes Euros, Llangybi; 2il Aron Wyn, Llanbrynmair.

Unawd Piano oed Cynradd: 1af Annes Euros, Llangybi.

Cystadleuwyr a buddugwyr Bl 3 a 4
Cystadleuwyr a buddugwyr Bl 3 a 4 ( )

Unawd Offerynnol Cynradd: 1af Annes Euros, Llangybi.

Llefaru Bl. 7 - 9: 1af Malena Aled, Parc; 2il Gwilym Jones, Llanegryn; 3ydd Aneira Jones, Llanegryn.

Unawd Merched Bl 7 - 9: 1af Malena Aled, Parc.

Unawd Piano Uwchradd: 1af Lea Mererid, Pwllheli; 2il Hywyn Euros, Llangybi; =3ydd Aneira Jones, Llanegryn; Gwilym Jones, Llanegryn a Malena Aled, Parc.

Unawd Offerynnol Uwchradd: 1af Malena Aled, Parc; 2il Aneira Jones, Llanegryn.

Adran Gwaith Cartref: Yr holl ymgeiswyr o Ysgol Craig y Deryn

Llenyddiaeth

Meithrin: 1af Miley; 2il Dominic; 3ydd Mabon.

Derbyn: 1af Olivia; 2il Ester; 3ydd Ivy.

Cystadleuwyr Bl 5 a 6 ac offerynnol Bl 6 ac iau
Cystadleuwyr Bl 5 a 6 ac offerynnol Bl 6 ac iau ( )

Bl. 1 a 2: =1af Cynan a Reuben; =2il John a Gracie: =3ydd Arabella a Freya.

Bl. 3 a 4: 1af Rosie; 2il Henry; 3ydd Jacob.

Bl. 5 a 6: 1af Jack; 2il Nia; =3ydd Anni ac Edward.

Gwaith Celf

Meithrin: 1af Rory; 2il Miley; 3ydd Mabon.

Derbyn: 1af Olivia; 2il Ester; 3ydd Tove.

Bl. 1 a 2: 1af Bella; 2il Erin; 3ydd Elsi.

Cystadleuwyr a Buddugwyr Bl. 7-9
Cystadleuwyr a buddugwyr Bl. 7-9 ( )

Bl. 3 a 4: 1af Owain; 2il Owen; 3ydd Celyn.

Bl. 5 a 6: 1af Anni; 2il Daisy; =3ydd Nia ac Edward

Canlyniadau'r Hwyr

Unawd Offeryn: 1af Lea Mererid, Pwllheli.

Rhyddiaith dan 18 oed: 1af Lleucu Hughes, Llanuwchllyn

Rhyddiaith 18-21 oed: 1af Huw Jarman, Talyllyn; 2il Angharad Rhys, Pwllheli.

Englyn: 1af Megan Richards, Aberaeron.

Telyneg: 1af Megan Richards, Aberaeron.

Unawd dan 25 oed: Huw Jarman, Talyllyn.

Llefaru dan 25 oed: Huw Jarman, Talyllyn.

Canu Emyn: 1af Aled Jones, Comins Coch; 2il Huw Jarman, Talyllyn; =3ydd Marianne Powell, Llandre ac Ifor Lewis, Abergynolwyn.

Unawd Cerdd Dant Agored: 1af Huw Jarman, Talyllyn.

Limrig: 1af Trefor Huw Jones, Pontypridd.

Brawddeg: 1af Glyn Jones, Y Bala.

'Sgen ti Dalent?: 1af Rhys Jones, Dinmael.

Cân Werin Agored: 1af Marianne Powell, Llandre 2il Aled Jones, Comins Coch.

Unawd Gymraeg: 1af Marianne Powell, Llandre; 2il Rhys Roberts, Y Ffôr 3ydd Aled Jones, Comins Coch

Prif Lefaru: 1af Maria Evans, Caerfyrddin 2il Rhys Jones, Dinmael.

Her Unawd: 1af Marianne Powell, Llandre; 2il Rhys Roberts, Y Ffôr.