YN sgil y straeon diweddar am doriadau yn narpariaeth prifysgolion Cymru mae Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, wedi eu hatgoffa o’u dyletswyddau o safbwynt y Gymraeg.
Meddai: “Er ein bod yn deall bod y sector addysg uwch mewn sefyllfa ariannol ansicr, a bod hynny’n arwain at benderfyniadau anodd, rydym yn pryderu am effaith unrhyw benderfyniadau ar gyfleoedd addysg i fyfyrwyr Cymru, ac ar weithleoedd lle mae’r Gymraeg i’w chlywed.
“Rwyf ar fin cyhoeddi cynllun strategol pum mlynedd ac mae fy mlaenoriaethau yn cynnwys plant a phobl ifanc a datblygu gweithleoedd lle gall y Gymraeg gael ei defnyddio’n naturiol.
“Mae prifysgolion Cymru’n chwarae rhan allweddol wrth roi cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg tu hwnt i fywyd cartref ac ysgol, gan ddatblygu gweithlu’r dyfodol yng Nghymru.
“Mae gan sefydliadau fel prifysgolion sydd yn gweithredu o dan gyfundrefn Safonau’r Gymraeg gyfrifoldebau penodol o dan y safonau llunio polisi.
“Yn unol â’r safonau hynny sydd wedi eu gosod o dan Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae’n ofynnol i brifysgolion ystyried effaith eu penderfyniadau ar yr iaith Gymraeg, gan ystyried pa gamau y gellid eu cymryd i sicrhau nad yw’r penderfyniadau yn cael effaith andwyol ar y Gymraeg, a’u bod yn cyfrannu at hyrwyddo a normaleiddio’r defnydd ohoni.
“O ganlyniad, rwyf wedi gohebu â phrifysgol Caerdydd yn gofyn iddynt nodi sut y maent wedi ystyried hynny wrth fynd ati i weithredu’r ymgynghoriad diweddar ar doriadau.
“Rwyf hefyd wedi cysylltu â chorff Prifysgolion Cymru i atgoffa eu haelodau hwythau o’u cyfrifoldebau a gofyn iddynt sicrhau fod ystyriaeth lawn yn cael ei roi i’r ddarpariaeth o safbwynt y Gymraeg mewn unrhyw benderfyniadau.”