MAE S4C wedi cyhoeddi fod Llion Iwan wedi ei benodi yn brif swyddog cynnwys S4C.
Mae Llion yn reolwr gyfarwyddwr Cwmni Da - un o gwmnïau cynhyrchu annibynnol mwyaf blaenllaw Cymru.
Ymunodd Llion â Chwmni Da yn 2019 a dan ei arweiniad mae’r cwmni wedi cynyddu trosiant, arloesi gyda gosod cynnwys Cymraeg ar Amazon Prime ac wedi datblygu partneriaethau cyd-gynhyrchu rhyngwladol sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at lwyddiant cyllidebol.
Mis yma enillodd y cwmni un o wobrau Broadcast ‘Best Place to Work in TV’.
Cychwynnodd Llion ei yrfa fel gohebydd ar bapurau lleol cyn ymuno â’r BBC fel newyddiadurwr – bu yno am ddeng mlynedd mewn amryw rolau newyddion a chwaraeon cyn symud ymlaen i gynhyrchu a chyfarwyddo rhaglenni dogfen ar gyfer BBC1, BBC2 a BBC4.
Wedi cyfnod fel cynhyrchydd llawrydd i nifer o brif gwmnïau annibynnol yng Nghymru, ymunodd Llion â S4C yn 2012 fel comisiynydd cynnwys ffeithiol a chwaraeon cyn dod yn bennaeth darlledu cynnwys. Gadawodd i gymryd yr awenau gyda Cwmni Da.
Meddai Geraint Evans, prif weithredwr S4C: “Rydym yn hynod falch o gael Llion yn ymuno â ni yn y rôl allweddol hon. Mae’n bennod newydd gyffrous i ni yn S4C, a bydd cael profiad eang Llion o’r sector gynhyrchu a’i ddealltwriaeth ddofn o’n cynulleidfaoedd amrywiol yng Nghymru yn werthfawr iawn wrth i ni garlamu ymlaen gyda’n trawsnewid digidol."
Meddai Llion Iwan: “Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i wneud un o’r swyddi gorau yn y byd darlledu yng Nghymru.
“Mae gan Gymru gymaint o straeon gwych a gafaelgar i’w rhannu – o bob cwr o’r wlad a phob cymuned.
“Rwy’n edrych ymlaen i gyd-weithio gyda thîm mor greadigol o gomisiynwyr, yr uwch-dim arwain a’r staff ehangach yn S4C i ddod â’r cynnwys gorau i sgriniau bach a mawr ar hyd Cymru a thu hwnt.”
Bydd Llion yn dechrau yn ei rôl fel prif swyddog cynnwys ym mis Mawrth.