BYDDY Llais, fersiwn Gymraeg o’r gyfres deledu fyd-eang boblogaidd, The Voice, yn darlledu ar S4C ar 9 Chwefror 2025.
Dyma gystadleuaeth ganu fwyaf eiconig y byd ble fydd rhai o leisiau gorau’r wlad yn wynebu’r cadeiriau coch a chystadlu am deitl mawreddog Y Llais 2025.
Yn union fel The Voice, mi fydd y talent yn cymryd rhan mewn clyweliadau cudd, gyda hyfforddwyr profiadol yn penderfynu os ydyn nhw am droi eu cadeiriau drwy wrando ar y lleisiau yn unig.
Hyfforddwyr Y Llais yw’r canwr opera byd enwog Syr Bryn Terfel, y seren reggae amryddawn, Aleighcia Scott, y cerddor a pherchennog label recordiau Côsh, Yws Gwynedd a’r gantores a’r gyfansoddwraig sydd hefyd wedi cystadlu ar The Voice yn y gorffennol, Bronwen Lewis.
Bydd y gyfres yn cael ei chyflwyno gan y cyflwynydd a DJ BBC Radio 1, Sian Eleri, sydd yn wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd Cymru a thu hwnt ac yn adnabyddus am ei hangerdd at gerddoriaeth.
Mi fydd y pedwar hyfforddwr yn dewis wyth act dalentog i ymuno â’u timoedd, ac fel rhan o’r daith, bydd hyfforddwyr gwadd yn ymuno â nhw i fentora’r talent.
Dywedodd Syr Bryn Terfel: "Dwi wir yn mwynhau’r profiad o fod yn hyfforddwr ar Y Llais, ac wedi fy syfrdanu gan yr holl dalent amrywiol.
“Mae’r daith hyd yma wedi bod yn anhygoel, yn llawn angerdd, talent, a chyfeillgarwch. Ac mae'r gystadleuaeth gyfeillgar rhwng yr Hyfforddwyr eraill wedi gwneud y profiad hyd yn oed yn fwy cyffrous!
“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr i rannu’r holl berfformiadau anhygoel gyda’r gynulleidfa – alla’i ddim aros i bawb weld y talent anhygoel sy’n camu ar y llwyfan mawr!”
Dywedodd Sian Eleri: “Dwi wedi fy synnu efo faint o ddagrau sydd wedi cael eu colli!
“Nid yn unig gan y talent ar ôl derbyn newyddion gwych a phob un o'r cadeiriau yn troi rownd, ond gan aelodau'r teulu hefyd.
“Rhan o fy swydd ydi bod gefn llwyfan efo’r teuluoedd a dwi wedi ymgolli’n llwyr yn eu straeon nhw ac yn gweld faint mae’n golygu i bobl.
“Dwi mor invested yn straeon pob un ac eisiau i bawb ennill!
“Ond dwi’n gwybod nad ydi hynny’n bosib ond naill ffordd neu’r llall, mae’n sicr o fod yn raglen llawn dop o gantorion anhygoel.”
Wrth edrych ymlaen at benwythnos llawn cerddoriaeth Cymraeg sy’n cychwyn gyda Dydd Miwsig Cymru ar ddydd Gwener 7 Chwefror, bydd Y Llais yn darlledu ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer ar nos Sul 9 Chwefror am 8yh.