MAE cyfres boblogaidd Priodas Pum Mil yn chwilio am gariadon Cymru sydd yn dymuno priodi am £5,000.
Mae’r gyfres yn cynnwys cael teulu a ffrindiau y pâr lwcus i drefnu eu priodas gyda chymorth y ddau gyflwynydd Emma Walford a Trystan Ellis-Morris.
Mae’r trefniadau at y diwrnod arbennig yn digwydd heb yn wybod i’r pâr, a rhaid i bopeth gostio llai na £5,000.
Medd Emma sydd wedi cyflwyno’r gyfres ers ei dechrau dros wyth mlynedd yn ôl: “Mae pob un rhaglen, pob un cwpwl, eu ffrindiau a’u teuluoedd, wedi bod yn arbennig.
“Mae’r gyfres yn fwy na jyst rhaglenni teledu, da ni’n trefnu diwrnod pwysicaf bywydau y cyplau a dwyt ti wir ddim isho siomi neb! Ond hyd yma, efo dros 50 o briodasau wedi bod, mae hi’n parhau yn llwyddiannus.”
Bydd cyfres newydd i'w gweld dros gyfnod y Nadolig ac i fewn i'r flwyddyn newydd, ac mae S4C yn annog cyplau i gyflwyno cais trwy dilyn y ddolen: www.priodas.cymru.
Gall y briodas fod yn un draddodiadol neu cael thema yn rhedeg drwyddi. Gall y briodas fod mewn capel neu ar draeth neu mewn castell hyd yn oed. Gall y cyplau wisgo ffrog wen a siwt a thei, neu wisgo fyny fel cymeriadau ffilm!
Yn nghyfres ddiwethaf Priodas Pum Mil roedd Jack a Silvia am uno traddodiadau Serbia gwlad enedigol teulu mam Silvia, gyda cynnal priodas mor eco gyfeillgar â phosib.
Doedd dim gwastraff yn eu priodas – eu dillad yn ail law, ceir trydan a llestri eu cyfeillion. A phawb yn nodi pa mor ‘berffaith’ oedd y briodas.
Ychwanegodd Emma: “Baswn i’n annog unrhyw un sydd awydd priodi i wneud cais i’r rhaglen.”
Peidiwch oedi a chysylltwch ar www.priodas.cymru.
Gallwch ddal fyny ar holl raglenni diweddar Priodas Pum Mil ar S4C Clic a BBC iPlayer.