LANSIODD Siarter Iaith Ceredigion chwe chân newydd - Cynefin ar Gân - ar Ddydd Miwsig Cymru.

Dechreuodd y prosiect nôl yn nhymor yr Hydref pan oedd cyfle i Gyngor Cymreictod ysgolion cynradd y sir ddod ynghyd yn ei hardaloedd i gydweithio ar greu geiriau i ganeuon am eu cynefin.

Roedd cyfle i’r Cynghorau Cymreictod weithio gyda beirdd lleol o Geredigion. Cafwyd yr ysgolion gyfle i weithio gyda:

  • Ysgolion Cylch Aeron - Dwynwen Lloyd Llywelyn
  • Ysgolion Cylch Llandysul ac Aberteifi - Ceri Wyn Jones
  • Ysgolion Cylch Llambed a Thregaron - Enfys Hatcher Davies
  • Ysgolion Cylch Aberystwyth - Arwel Rocet Jones

Yn dilyn creu’r geiriau, cafwyd gyfle i gydweithio gyda’r cerddor Mei Gwynedd i greu alawon i’r geiriau gwych.

Yna, ym mis Ionawr, daeth y cyfle i’r disgyblion i ddod ynghyd i recordio’r caneuon gyda Mei Gwynedd.

Cafwyd pedwar diwrnod arbennig, yn sicr, digwyddiad a phrofiad fydd yn aros yng nghof y disgyblion.

Dywedodd Anwen Eleri, swyddog cefnogi’r Gymraeg mewn ysgolion Ceredigion: “Roedd y disgyblion wrth eu bodd, roedd yn gyfle i efelychu sêr byd enwog y sin gerddoriaeth wrth recordio’r caneuon.

“Cafodd yr Ysgolion Trosiannol y cyfle arbennig i gydweithio gyda’r rapiwr amryddawn Mr Phormula i greu geiriau a rap dwyieithog. Roedd yn ffordd wych i ddangos i’r disgyblion bod modd gweithio yn ddwyieithog.”

Ychwanegodd Anwen: “Rydym yn falch iawn o’r holl waith a’r gefnogaeth sydd wedi bod i’r prosiect Cynefin ar Gân, mae yn sicr wedi bod yn brosiect cyffrous. Roedd hefyd yn gyfle arbennig i weithio gyda’r beirdd a cherddorion eraill ein gwlad.”

Gellir clywed y caneuon yma: https://drive.google.com/drive/folders/1mirswi__0-xM7DkPjM8roowZRFaLWjHz?usp=drive_link a byddant ar gael ar platfformau digidol yn fuan.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’r prosiect hyn wedi cynnig ffordd hwyliog i ddisgyblion ddysgu am eu cynefin.

“Mae’r disgyblion wedi cael y cyfle i gydweithio a rhwydweithio a'i gilydd, i ddod i adnabod eu cynefin, i gyfrannu’n ysgrifenedig a recordio ei cân nhw. Da iawn pawb!”

Cafodd y cyfan ei lansio mewn Gig Mawr Dydd Miwsig Cymru ym Mhafiliwn Bont gyda 650 o ddisgyblion cynradd yn mwynhau perfformiadau weld Morgan Elwy a’r Band a Mei Gwynedd. Cafodd caneuon Cynefin a’r Gân hefyd e perfformio gyda’r disgyblion a Mei Gwynedd.