YR wythnos hon mi gyhoeddir nofel gyntaf Neil Rosser, sy’n adnabyddus fel canwr ar y sîn Gymraeg ers dros dri deg o flynyddoedd.
Bu Neil hefyd yn athro, ac ers gorffen dysgu mae wedi ysgrifennu nofel ddeifiol yn gwatwar y byd addysg ac yn arbennig y system arolygu ysgolion, neu Gorestyn fel y’i gelwir yn y nofel.
Cyfeiria’r teitl at ‘wythnos ryfedd’ yr arolygydd Gwilym Puw, pan daw i sylweddoli fod ei holl yrfa wedi bod yn wastraff amser, ac mae’n cael ryw fath o brecdown gan ddechrau edrych ar y byd mewn ffordd wahanol.
Wrth i'r wythnos fynd heibio mae'r holl gyfundrefn y mae’n rhan ohoni yn ei ddadrithio.
Ond yn ogystal â bod yn ddychanol am y system arolygu, mae’r nofel hefyd yn ryw fath o deyrnged i’r athrawon y mae’n cyflwyno’r nofel iddynt.
Ceir portreadau cynnes o athrawon sy’n cyflawni llawer er gwaetha’r gyfundrefn sydd ohoni sy’n gallu lladd enaid, dychymyg a brwdfrydedd.
Meddai Neil: “Mae llawer o’r digwyddiadau a rhai o’r cymeriadau wedi eu seilio ar fy mhrofiadau fel athro... swydd digon anodd dyddie ma. Byddwch yn neisach i'r athrawon, neu fydd neb ar ôl i wneud y swydd!"
Mae’r nofel hefyd yn cynnwys atgofion o gyfnod y Mods a bandiau’r cyfnod fel y Jam wrth i Gwilym Puw lygadu Lambreta newydd yn ystod ei ‘wythnos ryfedd’.
Yn ogystal a rhoi darlun o fywyd ysgol, mae’r nofel Wythnos Ryfedd Gwilym Puw yn llawn sylwadaeth am y byd cyfoes, yn cynnwys effaith technoleg, ffonau symudol a phwyllgorau ym myd y dosbarth canol.
Bydd Wythnos Ryfedd Gwilym Puw yn cael ei lansio yn Cegin Stacey, Abergwili heno am 7yh.
Wythnos Ryfedd Gwilym Puw, Neil Rosser, Y Lolfa, £9.99.