Y NOFELYDD trosedd hanesyddol Alis Hawkins fydd siaradwr gwadd nesaf Cymdeithas Ceredigion nos Wener, 4ydd Ebrill.
A hithau wedi’i magu ar fferm ger Castellnewydd Emlyn roedd hi’n aelod brwd o’r clwb Ffermwyr Ifainc lleol â’i bryd ar ffermio defaid.
Serch hynny, i Rydychen i astudio Saesneg aeth Alis ac wedi dilyn gyrfa amrywiol aeth ymlaen i sefydlu ei hun fel awdures lwyddiannus ym myd nofelau Saesneg.
“Rydw i wedi darllen ffuglen trosedd ers yn fy arddegau a darganfyddais i ffuglen drosedd hanesyddol drwy nofelau Ellis Peters a’i chyfres Brother Cadfael,” meddai.
“I lwyddo yn y maes ffuglen drosedd hanesyddol mae’n rhaid cyfuno plot diddorol a gwefreiddiol gyda byd hanesyddol sy’n teimlo’n ddilys i’r ddarllenwr.
“Mae’n rhaid creu darlun o fyd sydd wedi diflannu, a’i wneud fel bod pobol yn teimlo ei bod yno – yn arogli’r awyr, yn teimlo’r haul ar eu croen, yn gweld y byd fel y byddai pobol cyfoeso wedi ei weld.
“Wedyn, fel gyda phob nofel, mae eisiau cymeriadau sy’n cydio yn eich ddarllenwyr, cymeriadau sy’n teimlo’n real iawn fel pobol, ond sydd hefyd yn ddilys i’r cyfnod penodol rydych chi’n ysgrifennu ynddo.”
Mae lle amlwg i Gymru a Dyffryn Teifi yn ei gwaith ac mae ei chyfres o lyfrau y ‘Teifi Valley Coroner’ yn ymwneud â helyntion Meched Beca.
Ac wrth gwrs, mae ysgrifennu am fro ei mebyd yn rheswm da dros ddychwelyd i ymweld â’i pherthnasau a’i chynefin.
Cefnogir y digwyddiad gan Lenyddiaeth Cymru ac mae croeso i bawb. Bydd paned i ddilyn.
Alis Hawkins, Cymdeithas Ceredigion, Caffi Emlyn, Tan-y-groes, ger Aberteifi, nos Wener, 4 Ebrill am 7.30 o’r gloch.
Manylion pellach: Barbara Roberts [email protected] neu Philippa Gibson [email protected] neu ffoniwch 07787 197630.