Mae’r nifer o fechgyn yn eu harddegau yng Nghymru sy’n cael eu radicaleiddio gan grwpiau neo-Natsïaidd yn tyfu’n gynt nag yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig – ac mae’n bryd i’r Cymry Cymraeg gydnabod ei fod yn digwydd o dan ein trwynau, meddai darlithydd o Brifysgol Caerdydd.
Yn y rhaglen Byd Eithafol: Neo-Nazis yn ein Plith, mae’r newyddiadurwraig Maxine Hughes yn codi'r llen ar y grwpiau asgell dde eithafol sy’n ffynnu ar-lein a’r bobl bregus sy’n cael eu targedu.
Trwy gyfweliadau gyda phobl ar bob ochr y ddadl - gwleidyddion, athrawon, dilynwyr y mudiad a chyn-ddilynwyr, protestwyr yn erbyn y gwersyll i ffoaduriaid ym Mhenalun, bechgyn ifanc sy’n chwarae gemau ar-lein a’u rhieni - ceir darlun ysgytiol o maint y broblem yng Nghymru.
Yn ystadegol, bechgyn gwyn o dan 20 mlwydd oed mewn ardaloedd gwledig sydd fwyaf tebygol o gael eu sugno i’r by asgell dde eithafol – a hynny wrth iddynt hunan-radicaleiddio ar-lein.
Mae hyn yn arwain Maxine i archwilio pa mor hawdd yw hi i gysylltu gyda phobl amheus mewn gemau ar-lein, ac i siarad gyda mam un bachgen gafodd ei radicaleiddio.
“Odd fy mab fel unrhyw fachgen 14 mlwydd oed. Odd e’n hapus, hwyl caredig, gofalgar a chariadus,” meddai. “Erbyn y diwedd, doedd dim perthynas gyda ni o gwbl.”
Daw Maxine i ddeall bod grwpiau asgell dde eithafol yn targedu pobl ifanc niwrowahanol yn arbennig - a pham.
“Weithiau bydd pobl awtistig yn chwilio am brofiadau synhwyraidd oherwydd nad ydyn nhw’n cael yr adborth hwnnw’n naturiol o’u systemau synhwyraidd eu hunain,” eglura Dr Donna Sharland, Ymgynghorydd Arbenigol Niwroamrywiaeth gyda Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru.
“Felly gall pethau fel symbolau gweledol fod yn ddeniadol iawn; mae baneri bob amser wedi bod yn ddeniadol iawn i bobl awtistig. Felly gallwch ddeall pan fydd grwpiau asgell dde eithaf yn defnyddio’r symbolau hynny y gall ddenu [pobl niwrowahanol]. Mae’n bryderus iawn.”
Mae’r Cymry Cymraeg yn naïf am fygythiad neo-Natsïaeth, meddai Dr Huw Williams, darllenydd mewn athroniaeth sydd wedi astudio twf y mudiad adain dde eithafol yng Nghymru.
“Mae e mwy neu lai ar ein stepen drws. Ni’n gwybod bod y syniadau yma, yr agweddau yma, y grwpiau yma, yn fyw ac yn iach i raddau helaeth,” meddai.
“Mae’n ddiddorol iawn edrych yn ystod wythnos y Steddfod, lle fuodd llawer yn dweud ar y cyfryngau cymdeithasol mor dda oedd e gweld y Cymry’n dod at eu gilydd yn dathlu eu diwylliant, ond mae hwnna’n awgrymu nad ydy y grwpiau yma ddim yn llechu yn y cysgodion.
“Mae hwnna’n broblematig. Mae’n rhaid i ni fod yn realistig ynglŷn â’r ffaith bod y syniadau yma wrth gwrs yn bwrw gwreiddiau ac wedi bod yna ers blynyddoedd lawer.”
Bydd y rhaglen i'w gweld ar S4C ar nos Lun 31 Mawrth am 20:00 a hefyd ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Nos Lun, 31 Mawrth 20.00
Ar alw: S4C Clic ac iPlayerCynhyrchiad Jet TV ar gyfer S4C