MAE’R hanesydd Cymreig amlwg, y diweddar Athro Geraint H. Jenkins, wedi cael ei anrhydeddu gan y Coleg Cymraeg yn ei gynulliad blynyddol yn Aberystwyth.

Yn gyn-aelod o staff a phennaeth adran hir ei wasanaeth, bu'r Athro Jenkins yn dysgu yn Adran Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth am 25 mlynedd rhwng 1968 a 1993.

Roedd yn enwog am ei gefnogaeth a'i gyfraniad amhrisiadwy i addysg brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg yr wythnos ddiethaf, rhoes y Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg, deyrnged i’r Athro Jenkins, gan ddweud: “Roedd Geraint yn un o haneswyr mwyaf nodedig Cymru. Buodd yn gyn-bennaeth ac yn arweinydd ysbrydoledig yr adran Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

“Roedd yn frwd iawn ei gefnogaeth i addysg prifysgol ac ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg, yn awdur nifer o gyfrolau, yn olygydd y gyfres ddylanwadol Cof Cenedl, ac yn un a roddai pwys mawr ar annog a chefnogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.

“Mae’n gadael bwlch mawr ym mywyd deallusol Cymru.”

Hefyd cafodd yr Athro Emeritws Eleri Pryse o Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth gymrodoriaeth er anrhydedd am ei blaengaredd academaidd yn ogystal â’i chyfraniad at ddysgu Ffiseg drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ers 1989.

Yr Athro Emeritws Eleri Pryse yn derbyn ei thystysgrif am gyfraniad oes i addysg cyfrwng Cymraeg
Yr Athro Emeritws Eleri Pryse yn derbyn ei thystysgrif am gyfraniad oes i addysg cyfrwng Cymraeg (Llun wedi'i gyflenwi)

Meddai: “Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr yr anrhydedd hon gan y Coleg Cymraeg - gwahoddiad annisgwyl iawn i mi. Buodd yn fraint a mwynhad i gydweithio gyda myfyrwyr a chyd-ddarlithwyr o brifysgolion ar draws Cymru a chyda staff y Coleg i ymestyn darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg i’r gwyddorau.

“Rhaid yw cydnabod rôl a chefnogaeth hanfodol y Coleg Cymraeg i dwf gwyddoniaeth drwy’r Gymraeg.”

Yn rhan o’r noson, cyflwynwyd tystysgrifau i fyfyrwyr PhD am gyflawni doethuriaeth o dan nawdd Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd yn dathlu ugain mlynedd ers sefydlu’r cynllun.

Un o'r rhai a dderbyniodd ei dystysgrif oedd Dr Cennydd Jones, a gwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddar yn ymchwilio i gronfeydd dŵr amgylcheddol TB mewn gwartheg (Mycobacterium bovis) ar ffermydd Cymru, ac mae bellach yn Ddarlithydd mewn Rheoli Glaswelltir Amaethyddol yn y Brifysgol.