FLWYDDYN ers i gymdogaeth wledig yng Ngheredigion ddechrau ymgyrchu, mae cronfa’r Loteri Genedlaethol newydd gyhoeddi eu bod yn rhoi £500,000 – y swm uchaf mae’n bosib iddynt ddyfarnu – i’w galluogi i brynu Ysgol Cribyn a’i datblygu’n ganolfan gymdeithasol ac addysg leol.
“Ma’ hwn yn newyddion bendigedig,” medd Alan Henson, cadeirydd y fenter.
“Ddeunaw mis yn ôl – wedi i Geredigion droi’r ysgol yn storfa – doedd ’da ni ddim unman i gwrdd.
“Dim unman i ’neud beth ma’ cymdogaeth Cribyn wedi ’neud erioed, sef dod a chreu a joio ’da’n gilydd. A nawr: dyma ni ar drothwy cyfnod cyffrous newydd yn ein hanes. Cyfnod o edrych yn hyderus tuag at y dyfodol.”
Gan mai dim ond wyth o blant oedd yn y pentre, caewyd Ysgol Cribyn yn 2009.
Er mwyn trio gwrthweithio sgil-effeithiau’r cau daeth yr holl fudiadau ynghyd i ffurfio Cymdeithas Clotas.
Tra’r oedd y sir yn dal i ddefnyddio’r adeilad yn ganolfan eithrio disgyblion yn y dydd sicrhaodd Clotas yr hawl i gynnal gweithgareddau cymdeithasol ac addysgiadol yno gyda’r nos.
Parhaodd y trefniant i weithio’n dda nes cau’r ganolfan eithrio tua’r un adeg y cychwynnodd argyfwng Covid.
Medd Alan: “Wrth i gyfnod y clo mawr ddod i ben, roedd hi’n sefyllfa ddiflas yng Nghribyn.
“Yng nghyfarfodydd Clotas roedd pawb yn awyddus i ail-godi’r hen fwrlwm. Ond gan fod yr ysgol yn llawn o adnoddau diogelwch-rhag-Covid doedd dim posib gwneud fawr o ddim. Rhaid o’dd neud rhywbeth.”
Y ‘rhywbeth’ hynny oedd dechrau pwyso ar y sir, ddiwedd 2023, i werthu’r adeilad i’r gymdogaeth.
Ddiwedd Ionawr 2024 cydsyniodd Ceredigon a ffurfiwyd Cymdeithas Budd Cymunedol ar gyfer bwrw ymlaen â’r pryniant.
“Ers hynny ma pethe wedi symud yn eitha clou,” medd Alan.
“Codi £70,000 yn lleol fisoedd Ebrill a Mai diwetha. Wedyn cael £195,000 gan Gronfa Adnoddau Cymunedol Llywodraeth Cymru jwst cyn ’dolig. A nawr ennill y loteri! Bendigedig! Sdim gair arall amdani.”
Wedi prynu’r ysgol y cam nesaf fydd uwchraddio’r ddwy brif stafell ddysgu i fod yn ganolfan gymdeithasol ac addysg leol o’r ansawdd uchaf.
Ar yr un pryd mi fydd y gwaith o sicrhau cyllid i droi rhan arall yr ysgol yn gartref fforddiadwy ar gyfer teulu Cymraeg lleol yn mynd yn ei flaen.
Medd Alan: “Nod Ysgol Cribyn yw bod yn ganolfan i gymdogaeth Gymraeg, hyderus - lle delfrydol i fagu plant ynddi ac i newydd-ddyfodiaid ddysgu a chyfranogi yn ein ffordd gyd-ofalgar o fyw.”