BYDD y ddrama garchar afaelgar, Bariau, yn dychwelyd i S4C ar gyfer ail gyfres nos Sul 13 Ebrill am 9yh, gan fynd â gwylwyr yn ôl y tu hwnt i ddrysau cadarn Carchar y Glannau.

Cafodd y gyfres gyntaf, a ddarlledwyd y llynedd, ymateb gwych gan wylwyr S4C, ac fe dderbyniodd gydnabyddiaeth sylweddol o fewn y diwydiant teledu.

Enillodd wobr BAFTA Cymru yn y categori Actores Orau (Annes Elwy), tra cafodd y Cynhyrchydd, Alaw Llewelyn Roberts, ei henwebu yng nghategori Torri Trwodd Cymru.

Fe’i henwebwyd hefyd yng nghategori Drama gwobrau RTS (Royal Television Society) Cymru.

Drama wedi’i lleoli mewn carchar dynion yw Bariau, gyda’r straeon wedi’u seilio ar brofiadau a thystiolaeth carcharorion a swyddogion carchar go iawn.

Mae nifer o garcharorion presennol wedi cael cyfle i wylio rhagflas ohoni, ac wedi canmol ei phortread cywir a gonest o fywyd dan glo. Yn ôl un carcharor, mae hi'n gyfres "sbeshial a realistig iawn”.

Ar ôl digwyddiadau ysgytwol y gyfres gyntaf, mae’r tensiynau o fewn waliau'r carchar yn uwch nag erioed. Mae’r frwydr yn mynd yn fwy ffyrnig, ac mae’n dod yn amlwg nad oes neb yn ddiogel rhag cysgodion eu gorffennol.

Fe fydd sawl wyneb cyfarwydd o’r gyfres gyntaf, fel Barry Hardy, y prif gymeriad, sy’n cael ei bortreadu gan Gwion Tegid, a bydd modd gweld beth fydd hanes ei gyd-garcharor Peter (Glyn Pritchard), y Swyddog Carchar Ned (Rolant Prys), a Linda, Caplan y carchar (Mali Tudno).

Yn ymuno â’r cast bydd Sion Alun Davies (Craith, Steeltown Murders, The Sandman) i chwarae Simon, y Prif Swyddog Carchar ciaidd, Alicia Forde (Waterloo Road), a Rhys Richards (Cylch Gwaed, A55).

Cymeriad arall newydd yw Jac, carcharor awtistig, sy’n cael ei chwarae gan Wiliam Young.

Mae Wiliam, sydd yn awtistig ac yn byw gyda’r cyflwr Agenesis o’r Corpus Callosum yn perthyn i gwmni theatr Hijinx, sy’n arbenigo mewn perfformwyr gydag anableddau dysgu neu anghenion ychwanegol.

Yr un tîm cynhyrchu sy’n gyfrifol am yr ail gyfres – yr awdur Ciron Gruffydd (Limbo), y Cyfarwyddwr Griff Rowland (Y Gwyll, Wizards vs Aliens BBC), a’r Cynhyrchydd Alaw Llewelyn Roberts.

Mae’r gyfres wedi ei saethu yn Stiwdio Aria yn Llangefni, ble adeiladwyd set dau lawr i gynnwys 24 cell oedd yn mesur rhyw 2,500m².

Yn ôl Ciron Gruffydd awdur y ddrama, bydd yr ail gyfres “yn cynnig cyfle i archwilio’n ddyfnach i’r cymeriadau, a’r perthnasau rhyngddyn nhw rŵan ‘mod i a’r gynulleidfa wedi dod i’w ‘nabod.”

Meddai: “Mae bywyd carchar yn ficrocosm o gymdeithas fel dan ni’n gweld hi” ychwanega, a’r nod wrth greu’r ddrama oedd creu darlun mor realistig â phosib, gyda’r pwyslais ar gymeriadau cryf a’u hemosiynau.

“Trwy’n sgyrsiau ymchwil, roedden ni’n trio rhoi darlun o fywyd carchar go iawn. Mae Barry’n top dog ar y wing, ac mae hynny’n golygu bod ganddo ddau degell yn ei gell. Mae dau degell yn arwydd o statws yna.”

Cyffyrddiadau cynnil fel hyn oedd yn taro deuddeg gyda’r carcharorion go iawn a gafodd flas ar y gyfres. Yn ôl un ohonynt: “Caplan yn gofyn os fysa Barry yn gwneud meet and greet hefo myfyrwyr Criminology. Barry’n gofyn ‘Oes ‘na sausage rolls’? Gwneud i ni gyd chwerthin. Ma’ bob dim o amgylch bwyd hefo carcharorion…so spot on!”

Meddai Gwion Tegid, sy’n chwarae rhan Barry: “Mae’r ymateb i'r gyfres gyntaf wedi bod yn overwhelming, roedd gymaint o ymateb positif gan drawstoriad eang o’r gynulleidfa. Roedd saethu’r ddwy gyfres yn gymaint o bleser; heb os y gwaith mwyaf boddhaol i mi wneud hyd yn hyn a fedra i ddim disgwyl i weld yr ymateb i'r ail gyfres.”

Meddai Gwenllian Gravelle, Pennaeth Drama S4C: “Dwi wrth fy modd bod y ddrama afaelgar, awthentig a llawn tensiwn hon yn dychwelyd i S4C ar gyfer rhediad arall, yn dilyn llwyddiant ysgubol y gyfres gyntaf. Dwi’n hyderus y bydd y gynulleidfa’n cael eu cyfareddu unwaith eto.”

Bydd Bariau hefyd i'w gweld am 9yh ar nos Fercher yn dilyn y darllediad ar nos Sul. Bydd y bennod nos Fercher yn cynnwys is-deitlau ar sgrin.

Mae cyfle i wylio cyfres gyntaf Bariau ar ei hyd unwaith eto ar S4C Clic a BBC iPlayer, a bydd bocset o’r ail gyfres i'w gweld o nos Sul.

Bariau

Nos Sul, 13 Ebrill a nos Fercher 16 Ebrill am 9.00yh

Is-deitlau Saesneg ar sgrin ar ddarllediad nos Fercher, 16 Ebrill

Ar alw: S4C Clic ac iPlayerCynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C