î
BYDD gofalwyr maeth yng Ngwynedd yn derbyn pecyn o fuddiannau a chymhellion, fel rhan o’r ymgyrch i annog gofalwyr i barhau i faethu ac i ddenu mwy o bobl i gynnig y gwasanaeth amhrisiadwy.
Wedi i Gabinet Cyngor Gwynedd gymeradwyo’r cynnig, bydd rhieni maeth sy’n maethu gyda’r awdurdod lleol yng Ngwynedd nawr yn derbyn:
- Gostyngiad o 50% ( 25% i Ofalwr Maeth egwyl fer) ym miliau Treth Cyngor prif breswylfa gofalwyr maeth yng Ngwynedd
- Tocyn parcio blynyddol am ddim i holl feysydd parcio’r Cyngor.
- Defnydd diderfyn o ganolfannau hamdden trwy’r cerdyn gostyngol ‘max’.
Bydd Cyngor Gwynedd hefyd yn mabwysiadu polisi Maethu Cyfeillgar i ofalwyr maeth Maethu Cymru Gwynedd sy’n gyflogedig i’r awdurdod. Bydd hyn yn cynnig hyblygrwydd mewn trefniadau gweithio er mwyn cwrdd ag anghenion y plant sydd yn eu gofal.
Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd Cyngor Gwynedd: "Drwy faethu'n lleol, gyda Chyngor Gwynedd, mae ein gofalwyr maeth yn helpu plant a phobl ifanc lleol i aros yn eu cymuned, yn agos at ffrindiau ac aelodau o'r teulu y maent yn cadw mewn cysylltiad â nhw
“ Mae'n eu cadw'n gysylltiedig, yn adeiladu sefydlogrwydd ac, yn hollbwysig, yn eu helpu i gadw eu synnwyr o hunaniaeth.
“Mae pecyn cymorth eisoes ar gael i’n gofalwyr maeth profiadol ac ymroddedig, ond drwy gyflwyno cyfres o gymhellion newydd rydym yn dangos ein cefnogaeth a gwerthfawrogiad iddynt, ac o bosib yn annog a denu mwy i fod yn ofalwyr maeth.”
Mae Karen a Stephen wedi bod yn maethu gyda Maethu Cymru Gwynedd ers 24 mlynedd ac yn croesawu'r cyhoeddiad newydd hwn: "I ni, nid yw maethu yn 'swydd', mae'n ffordd o fyw ac rydyn ni'n ei wneud oherwydd ein bod ni wir eisiau. Nid ydym yn maethu am yr arian ond mae'n bwysig iawn eich bod chi'n cael digon o gefnogaeth i allu diwallu anghenion y plant yn eich gofal. Mae rhai plant yn dod i mewn i gartref maeth heb ddim, dim un peth.
"Bydd y pecyn newydd hwn gan Gyngor Gwynedd, fel y gostyngiad yn ein bil treth Cyngor, yn ein galluogi i roi pethau neis i’n plant maeth; diwrnodau allan neu hyd yn oed gwyliau bach.
“Rydyn ni'n mwynhau creu atgofion newydd arbennig i'r plant, a bydd y buddion hyn sy’n cynnwys pris gostyngol am ddefnydd o gyfleusterau canolfannau hamdden, yn sicr yn ein helpu i wneud hynny."
Bydd y pecyn cymhellion newydd yn cryfhau cynnig Maethu Cymru Gwynedd i gadw ac ychwanegu at y nifer gofalwyr maeth yng Ngwynedd. Bydd hefyd yn tynnu sylw at fanteision gofal maeth awdurdodau lleol fel rhan o Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol nodedig Llywodraeth Cymru i ddileu elw o’r system gofal plant.
Os ydych yn meddwl am faethu, cysylltwch â thîm Maethu Cymru Gwynedd i drafod eich opsiynau: https://maethucymru.gwynedd.llyw.cymru/