ERS bron i ddegawd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, bwrdd iechyd mwyaf Cymru, wedi bod yn y penawdau – yn aml am y rhesymau anghywir megis amseroedd aros hir a rhesi o ambiwlansiau yn ciwio y tu allan i ysbytai. Ond y tu hwnt i’r heriau hyn mae straeon o ymroddiad a gwytnwch.

Ac am y tro cyntaf ers blynyddoedd, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cytuno i gamerâu gael mynediad i ysbytai gogledd Cymru, gan gynnig golwg agos ar brofiadau bywyd y rhai ar y rheng flaen.

Darlledwyd y bennod gyntaf, Ysbyty: Plant Ni, ar S4C ar ddydd Mawrth (S4C Clic). Roedd yn cynnig persbectif prin i wylwyr ar ofal ac ymroddiad gweithwyr iechyd sy’n gweithio'n ddiflino ar Ward Plant Ysbyty Glan Clwyd.

Mae’r rhaglen yn dilyn taith sawl claf ifanc, pob un â’u heriau iechyd eu hunain, ac yn amlygu ymrwymiad meddygon, nyrsys, a staff cynorthwyol sy’n darparu gofal eithriadol yn wyneb materion meddygol cymhleth.

Mae’r ward plant yn Ysbyty Glan Clwyd yn uned fach ond prysur sy'n gweld ystod eang o achosion yn ddyddiol. O gleifion oncoleg i blant sy'n gwella ar ôl llawdriniaethau neu ddamweiniau, mae’n rhaid i'r tîm fod yn barod ar gyfer pob sefyllfa.

Yn y bennod hon, mae gwylwyr yn cwrdd â nifer o blant, gan gynnwys Gwern a Broc, y ddau yn cael trafferth anadlu, Nel, sy’n dair wythnos oed ac wedi datblygu brech ar ei chroen, Ruby, sydd wedi profi ei ffit cyntaf, a Coby, y maen nhw’n meddwl sy’n dioddef o alergedd i benisilin.

Mae’r cleifion ifanc hyn, ynghyd ag eraill, yn derbyn gofal arbenigol gan dîm ymroddedig sy’n wynebu’r heriau meddygol hyn gyda sensitifrwydd a phroffesiynoldeb.

Mae'r ward hefyd yn gofalu am blant ag anghenion iechyd parhaus a chymhleth. Mae Pippa, merch saith oed sy’n dioddef o gyflwr prin o’r enw Rett Syndrome yn dibynnu ar ofal dyddiol gan nyrsys cymunedol a, phan fydd pethau’n gwaethygu, ysbyty Alder Hey.

Mae teulu Pippa yn werthfawrogol iawn o’r gofal mae’n ei derbyn yn lleol yng Nglan Clwyd, fel yr eglura ei mam: “Maen nhw'n wych yma, mor dda pan ddaw hi i mewn...dwi'n teimlo'n drist dros deuluoedd sydd heb yr un rhwydwaith a'r un gefnogaeth o'u cwmpas ond rydyn ni'n ffodus iawn.”

Er nad oes uned gofal dwys i blant yng Ngogledd Cymru, mae Uned Dibyniaeth Fawr (HDU) Glan Clwyd yn darparu gofal arbenigol i blant sydd angen eu monitro’n agosach. Mae nyrsys ar y ward wedi cael hyfforddiant ychwanegol i ymdrin â chyflyrau cymhleth a heriol, gan sicrhau bod pob plentyn yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt.

Er bod y ward yn aml yn brysur tu hwnt, mae'r staff nyrsio wedi ymrwymo i bontio'r bwlch. Dywedodd Laura, Rheolwr yr Uned: “Rydyn ni’n nabod lot o’n plant ni yma – ‘da ni’n gwybod beth sy’n gwneud nhw’n hapus, beth sy’n gwneud nhw’n drist, beth sy’n neud nhw’n well a beth i beidio gwneud weithiau. Mae yna lot o blant efo anghenion arbennig sy’n dod yn aml a weithiau’n dod i HDU ac i gael nyrs a tîm o ddoctoriaid maen nhw’n nabod - i’r rhieni hefyd - mae’n rili bwysig.”

Yn ogystal â staff meddygol, mae'r ward hefyd yn dibynnu ar wirfoddolwyr fel Jac, darpar feddyg 17 oed sy'n gobeithio ennill profiad gwerthfawr cyn gwneud cais i'r ysgol feddygol. Mae awydd Jac i helpu a dysgu yn adlewyrchu ymroddiad ac angerdd y tîm cyfan: “Dwi wedi bod isio mynd yn ddoctor ers amser hir iawn. I weld sut maen nhw’n gweithio, a'r profiad maen nhw’n gael, dyna dwi’n gobeithio bod mewn ychydig o flynyddoedd.”

Gweddill penodau cyfres Ysbyty yw:

2. Ysbyty: Dan Bwysau - 15 Ebrill, 21.00.

Y Linell Flaen. Tu ôl i'r llen o fewn adran achosion brys Ysbyty Maelor.

3. Ysbyty: Dim Lle - 22 Ebrill, 21.00.

Adran achosion brys mewn creisis? Cawn weld beth mae Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam yn ei wneud i drio gwella’r sefyllfa.

4. Ysbyty: Babis Bach – 29 Ebrill, 21.00.

Babis yn cael eu geni'n gynnar. Mae’r unig uned cyn geni yng ngogledd Cymru yn caniatáu mynediad am y tro cyntaf erioed, i'r gwaith sy’n digwydd yn gofalu ar ôl y babanod bregus hyn.