MAE’R grant datblygu capasiti'r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg yn rhoi cyfle i ysgolion uwchradd ganfod ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â phroblemau staffio tymor byr, gan gynyddu nifer yr athrawon a chynorthwywyr addysgu sy'n siarad Cymraeg.

Gall ysgolion wneud cais am y grant a bydd modd ei ddefnyddio o fis Medi 2025, gyda £900,000 ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Y llynedd, dyfarnwyd 55 o grantiau i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog ledled Cymru.

Dyma enghreifftiau o'r ffyrdd y mae ysgolion yn defnyddio'r cyllid:

  • Darparu cyfleoedd i bobl ifanc sy'n gadael addysg gael profiad gwaith yn ystod blwyddyn allan neu brentisiaethau fel cynorthwywyr addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg
  • Cydweithio ar draws ysgolion i ddarparu dysgu proffesiynol, yn enwedig mewn meysydd pwnc lle mae prinder
  • Cynnig lleoliadau myfyrwyr israddedig sy'n rhoi profiad iddynt o fod mewn ystafell ddosbarth a'u hannog i ystyried addysgu fel gyrfa

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: “Mae datblygu gweithlu i addysgu Cymraeg fel pwnc, a darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, yn hanfodol er mwyn creu mwy o siaradwyr Cymraeg. Mae'r grant hwn yn un o'r cynlluniau arloesol sydd gennym ar waith i gyflawni hynny.

“Rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn cefnogi dysgwyr i gyrraedd eu potensial llawn ac yn darparu'r cyfleoedd datblygu proffesiynol sydd eu hangen ar athrawon i barhau i godi safonau yn ein hysgolion.”

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford: “Rydyn ni eisiau adeiladu Cymru lle mae pob dysgwr yn cael cyfle teg i siarad Cymraeg. Mae Bil y Gymraeg ac Addysg yn nodi'r camau nesaf wrth i ni barhau i gydweithio tuag at filiwn o siaradwyr.

“Mae grantiau fel hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod gennym y gweithlu i gyflawni'r uchelgais hon.

“Mae'r grant ar gyfer datblygu capasiti'r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg yn un o nifer o gynlluniau i wella'r gweithlu addysgu Cymraeg yng Nghymru.”