BYDD cyfle i drigolion Gwynedd ddysgu a darganfod mwy am hanes Deiseb Heddwch Menywod Cymru, 1923-24 a rôl ganolog menywod Cymru wrth weithio dros heddwch wrth i’r arddangosfa ymweld â Storiel, Bangor.
Mae’r arddangosfa yn dod â chelf ac archifau at ei gilydd i adrodd straeon y menywod hynod hyn, ar lefel lleol, yn genedlaethol, a'r llwyfan rhyngwladol.
Yn 1923-24, arwyddodd 390,296 o fenywod o Gymru apêl i ferched America yn galw am heddwch byd. Yn dilyn colledion erchyll y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd y menywod eu hysbrydoli i apelio am heddwch, gan alw am ‘GYFRAITH NID RHYFEL'.
Darganfyddwch fwy am Annie Hughes Griffiths ac eraill a arweiniodd y ddirprwyaeth i America, yn ogystal â’r rhai o ogledd Cymru a ymgyrchodd dros heddwch, gan gynnwys trefnu’r daith gerdded o Benygroes i Hyde Park yn 1926.

I gyd-fynd â’r arddangosfa bydd nifer o weithdai celfyddydol yn cael eu cynnal, gan gynnwys gweithdai pwytho gyda Bethan Hughes, gweithdy paentio gyda Meinir Mathias a sesiynau creadigol gyda Mair Tomos Ifans, Ness Owen, a Fiorella Wyn, yn ogystal â chyfres o sgyrsiau difyr am rhai o’r merched fu’n brwydro dros heddwch a stori’r ddeiseb.
Bydd Iona Price ac Angharad Tomos ymysg y rhai fydd yn sgwrsio. Gwyliwch allan am fanylion cofrestru ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Storiel.
Meddai Dr Owain Rh. Roberts, Cyfarwyddwr Casgliadau a Gwasanaethau Digidol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Ers i Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru a'r gist ddychwelyd i Gymru yn 2023, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i rannu'r darn eiconig hwn o hanes.
“Trwy ein gwaith ar ddigido ac ymgysylltu ein nod yw galluogi pobl Cymru a thu hwnt i ddysgu mwy am ymdrechion enfawr merched Cymru i geisio heddwch.
“Mae gan y Llyfrgell gyfoeth o eitemau yn ymwneud â'n gwaith heddwch ac rydym yn falch i ddod â’r straeon hyn i gynulleidfaoedd yng ngogledd Cymru."
Dywedodd Jill Evans, Cadeirydd Heddwch Nain- Mamgu: “Roedd y ddeiseb yn gamp rhyfeddol: cannoedd o fenywod yn casglu enwau miloedd ar filoedd o fenywod ar draws Cymru dros heddwch.
Doedd menywod 1923 ddim yn fodlon gweld popeth oedd yn digwydd yn y byd a gwneud dim byd amndano eu hunain. Roedden nhw’n ysgwyddo'r cyfrifoldeb i weithredu. Mae’r arddangosfa yn dathlu’r apêl sydd yn rhan o hanes ein cenedl.
“Sefydlwyd Heddwch Nain-Mamgu er mwyn cofio, dathlu a gwireddu neges menywod Cymru can mlynedd yn ôl. Mae’r stori wedi tanio dychymyg pobl yng Nghymru a’r tu hwnt. Heddiw, mae'r neges heddwch yr un mor berthnasol a phwerus ag erioed."
Ychwanegodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd: “Mae Storiel yn lleoliad gwerthfawr ym Mangor lle gall trigolion Gwynedd ddod i ddysgu mwy am eu hanes a threftadaeth, unai drwy’r arddangosfeydd parhaol, neu trwy’r amrywiaeth o arddangosfeydd dros dro sy’n cael eu croesawu yma drwy’r flwyddyn.
“Rydym yn hynod o falch fod Storiel fel amgueddfa gydag achrediad yn cynnig ei hun fel yr unig leoliad yng ngogledd Cymru a fydd yn llwyfannu arddangosfa Deiseb Heddwch Menywod Cymru. Mae’r stori yma yn un ysbrydoledig ac mor berthnasol heddiw â chan mlynedd yn ôl.”
Bydd yr arddangosfa yn agor am 12 dydd ar Ddydd Sadwrn Ebrill 12, gyda Meg Elis, wyres Annie Hughes Griffiths yn deud ychydig o eiriau. Mae croeso i bawb i’r agoriad.
Bydd yr arteffactau a dogfennau unigryw i’w gweld yn Storiel o Ddydd Sadwrn Ebrill 12 hyd Ddydd Sadwrn Mehefin 21, 2025.
Mae’r arddangosfa yn cynnwys benthyciadau o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru, Archifau Prifysgol Bangor, Gwasanaeth Archifau Gwynedd a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.storiel.cymru