AR ôl bwlch o rai blynyddoedd, mae Ysgrifau Beirniadol yn ôl!
Mae’r rhifyn diweddaraf, Gweddnewidiadau: Ysgrifau Beirniadol XXXV, newydd ei gyhoeddi, naw mlynedd ers i’r rhifyn diwethaf ddod i olau dydd, a 60 mlynedd ers cyhoeddi’r rhifyn cyntaf yn y gyfres yn ôl ym 1965.
Mae’r rhifyn newydd wedi’i olygu gan Elis Dafydd a Gareth Evans-Jones, y naill yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, a’r llall yn ddarlithydd yn yr Adran Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor, ac mae’n cynnwys erthyglau gan Marged Haycock, Rebecca Thomas, Llewelyn Hopwood, Miriam Elin Jones, T. Robin Chapman a Jerry Hunter, ynghyd â chyfweliad â Mihangel Morgan.
Yn y gyfres ar ei newydd wedd hefyd ceir adran ‘Darnau Beirniadol’, erthyglau byrrach sy’n trin a thrafod amrywiol agweddau ar lenyddiaeth a diwylliant Cymraeg mewn ffordd fywiog a beiddgar.
Elis Dafydd, Marta Listewnik, Meinir Wyn Edwards a Malachy Owain Edwards sydd wedi cyfrannu darnau ar gyfer y rhifyn cyfredol.
Sefydlwyd Ysgrifau Beirniadol yn 1965 er mwyn cyhoeddi erthyglau o feirniadaeth lenyddol, a rhwng hynny a 2016 cyhoeddwyd 34 rhifyn sy’n cynnwys erthyglau gan rai o fawrion ysgolheictod y Gymraeg, yn cynnwys Gwenallt, John Gwilym Jones, Branwen Jarvis, Bedwyr Lewis Jones, R. Geraint Gruffydd, Enid P. Roberts, John Rowlands, Bobi Jones a Rachel Bromwich.
Bu gan y gyfres gysylltiad clós ag Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor dros y blynyddoedd, gyda Gwyn Thomas, Gerwyn Wiliams ac Angharad Price ymhlith y cyn-olygyddion.
Daeth cyfle yn ddiweddar i Ysgol y Gymraeg brynu’r gyfres gan Wasg Gee, ac mae’r rhifyn diweddaraf, Gweddnewidiadau: Ysgrifau Beirniadol XXXV newydd ymddangos o dan olygyddiaeth Elis Dafydd a Gareth Evans-Jones, y naill yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, a’r llall yn ddarlithydd yn yr Adran Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor.
Meddai Elis Dafydd: “Roeddwn i’n teimlo ers tro byd fod yna ddiffyg trafod o ddifri ar lenyddiaeth Gymraeg; mai ychydig adolygiadau 800 gair fyddai’n cael eu cyhoeddi’n trafod unrhyw gyfrol benodol, a bod yna ddiffyg llwyfannau addas i gyhoeddi erthyglau hirach ar weithiau hŷn hefyd.
“Roedd Ysgrifau Beirniadol wedi bod yn llwyfan gwych am flynyddoedd maith i bobl allu trafod llenyddiaeth Gymraeg mewn ffordd dreiddgar ac estynedig, ac roeddwn i’n teimlo bod bwlch mawr wedi ymddangos ers cyhoeddi’r rhifyn diwethaf yn 2016.
“Rydym yn ffodus fod Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor wedi llwyddo i brynu’r cyhoeddiad gan Wasg Gee, ac er mai Bangor fydd cartref Ysgrifau Beirniadol o hyn ymlaen, rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddi gwaith gan bobl erthyglau gan feirniaid llenyddol sy’n gysylltiedig â phrifysgolion eraill, a rhai nad ydynt yn gysylltiedig ag unrhyw sefydliad.”
Ychwanegodd Gareth: “Mae’n fraint cael ymgymryd â golygyddiaeth cyhoeddiad y mae iddo hanes mor hir ac anrhydeddus, ac mae Elis a finnau’n awyddus iawn i adeiladu ar waith y golygyddion blaenorol er mwyn i Ysgrifau Beirniadol unwaith eto fod yn rym o bwys yn y naratif beirniadol o amgylch llenyddiaeth Gymraeg.”
Gweddnewidiadau: Ysgrifau Beirniadol XXXV, £12.99 Y Lolfa