Y gân Troseddwr yr Awr gan y band Dros Dro enillodd Cân i Gymru 2025.

Cafodd y gân ei dewis yn fuddugol trwy bleidlais gyhoeddus gan wylwyr y rhaglen Cân i Gymru ar S4C neithiwr yn fyw o Dragon Studios, Pen-y-bont ar Ogwr.

Diwedd y Byd gan Marc Skone oedd yn ail ac yn ennill gwobr o £3,000 a Lluniau ar fy Stryd gan Meilyr Wyn ddaeth yn drydydd ac yn derbyn £2,000

Band o chwe ffrind o Sir Gâr - Efa, Gruff, Bryn, Iestyn, Celt a Cian- yw Dros Dro.

Mae 5 ohonynt yn fyfyrwyr ym Mhrifysgolion Aberystwyth, Caerdydd a Manceinion.

Cafodd y band ei ffurfio yn wreiddiol nôl yn 2022 fel rhan o brosiect Menter Gorllewin Sir Gâr i hybu cerddoriaeth.

Mae’r gân yn edrych yn ôl ar berthynas sydd wedi chwalu, a’r ‘troseddwr’ yw’r person fu’n anffyddlon. Mae’r band yn ei disgrifio fel “balâd ddramatig a moody gyda sain tebyg i draciau sain ffilmiau James Bond”.

Mae Dros Dro wedi rhyddhau albwm, ac wedi perfformio trideg gig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Eu gobaith yw rhyddhau ail albwm ddiwedd yr Haf.

Meddai Efa, aelod o’r band: “Sai’n gallu coelio fe o gwbl. Diolch i bawb sydd wedi pleidleisio.”

Ychwanegodd Gruff byddai’r wobr o £5,000 yn “talu rhent i rai ohonan ni a gwersi dreifio i Iestyn hefyd.”

Dywedodd Trystan Ellis-Morris: “Mae’n fendigedig gweld criw mor ifanc yn ymgymryd â’r gystadleuaeth, achos roedden nhw’n dweud wrtha i gefn llwyfan bod nhw’n difaru bod nhw ddim wedi cystadlu yn y gystadleuaeth y llynedd.

“Felly dan ni mor ddiolchgar bod nhw wedi cymryd rhan yn 2025.”

 Ar ôl lansio Cân i Gymru eleni ym mis Tachwedd 2024, daeth 109 o ganeuon i ddwylo’r beirniaid - Peredur ap Gwynedd, Caryl Parry Jones, Sage Todz, Catty, a’u cadeirydd Osian Huw Williams.

Neithiwr, y cyhoedd gafodd y gair olaf trwy bleidleisio am eu hoff gân yn ystod y rhaglen fyw.

Mae Troseddwr yr Arwr yn ennill tlws Cân i Gymru a’r wobr o £5,000.

Gallwch ail-fyw holl gyffro noson Cân i Gymru 2025, ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer