I DDATHLU Dydd Gŵyl Dewi eleni, mae S4C wedi rhyddhau fersiwn arbennig i bawb o’r anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau, wedi ei pherfformio gan y canwr eiconig Dafydd Iwan.

Y bwriad yw defnyddio un o leisiau amlycaf Cymru i berfformio fersiwn newydd ond bythol-wyrdd o’r anthem ar ei hyd. I helpu’r rhai llai rhugl neu sy’n dysgu Cymraeg, mae fersiwn arbennig wedi eic chreu gydag isdeitlau ffonetig er mwyn rhoi cyfle i bawb gael dysgu ac ymuno â chanu’r anthem gyda balchder.

Mae’r trefniant cerddorol ar gyfer y perfformiad wedi’i chreu gan y Cyfarwyddwr Cerdd Owain Roberts a bydd y fersiwn lawn yn cynnwys penillion llai adnabyddus yr anthem.

Mi fydd y fideo yn llawn i'w gweld am y tro cyntaf yn ystod egwyl olaf Cân i Gymru ar nos Wener 28 Chwefror.

Bydd y fersiynau o’r perfformiad ar gael ar sianel YouTube S4C yn dilyn darllediad y gystadleuaeth ac i’w gweld ar holl blatfformau cyfryngau cymdeithasol S4C o 1 Mawrth ymlaen.

Yn ôl Dafydd Iwan: “Mae’n dda bod gyda ni un gân sy’n dod â phawb at ei gilydd, a be sy’n wych amdani wrth gwrs yng Nghymru ydi ei bod hi’n Gymraeg, a bod pobl di-Gymraeg yn canu fel y medran nhw yn Gymraeg.

“Mae hi’n gweithio fel cân i’r genedl yr ydym ni’n medru hawlio. Mae’r anthem yn Gymraeg yn cynrychioli’r genedl.

Dyma oedd y tro cyntaf i Owain Roberts, sy’n fwy adnabyddus yng Nghymru am ei fand Band Pres Llareggub, gydweithio gyda Dafydd Iwan. Yn wreiddiol o Fangor, mae Owain bellach yn byw yn Llundain lle mae’n gweithio fel cyfansoddwr yn trefnu cerddoriaeth i nifer o grwpiau a cherddorfeydd ac hefyd yn cyfansoddi i’r sgrîn.

Meddai Owain: “Mae wedi bod yn bleser ac yn anrhydedd cael gweithio efo Dafydd Iwan, ond mae ‘na bwysau gweithio efo rhywbeth fel anthem genedlaethol; mae pawb isio rhywbeth gwahanol ohono ac mae’n amhosib plesio pawb yn amlwg, ond dwi’n gobeithio bod ni ‘di neud rhywbeth newydd fydd yn para.

“Mae 'na lot o hyblygrwydd wedi bod yn y trefniant. Dwi ‘di trio gweithio i gryfderau Dafydd a’i lais ond hefyd gwneud rhywbeth sy’n weddol sinematig ar gyfer y sgrîn neith bobl fwynhau.

“Dwi wedi dod i nabod y gân yn well nag o’r blaen. Dwi wedi dod i nabod yr ail a’r trydydd pennill - rhywbeth dydyn ni ddim yn canu’n aml o gwbl, a do’n i ddim yn gwybod y geiriau mor dda â hynny.