MAE Siân Williams, neu Siân Bod, yn cyhoeddi ei nofel gyntaf Dal dy Dir.
Yn wreiddiol o Foduan yn Llŷn, mae Siân wedi gweithio fel gofalwraig, newyddiadurwraig, ymchwilydd academaidd, ymchwilydd teledu a golygydd materion gwledig.
Mae Dal dy Dir yn nofel wedi ei seilio ar broblemau a thensiynau cynyddol yng nghefn gwlad Cymru.
Gohebydd ifanc a gweithgar ydy’r prif gymeriad, Cerys Ifans, sydd hefyd yn mwynhau bywyd i’r eithaf mewn partïon gwyllt neu yn ei charafán yn smocio joint!
Yn ei gwaith, mae Cerys yn delio â phynciau llosg Cymru wledig – dwyn o ffermydd, prinder cartrefi, a mewnlifiad.
Ond mae un stori sy’n agos iawn at ei chalon.
Wedi marwolaeth Emlyn Parry Glan Gors, cefnoga Cerys ei deulu wrth iddyn nhw frwydro i gadw eu fferm deuluol.
Ond yng nghanol y galar a’r gofid, mae hen gyfeillgarwch yn ail gynnau.
Mae’r nofel wedi’i gosod yng nghymdeithas wledig Gymreig Penrhynsiriol – ardal debyg iawn i Benrhyn Llŷn.
Seiliwyd y nofel ar brofiadau personol yr awdur wedi i’w mam frwydro i gadw to uwch eu pennau ar ôl marwolaeth ei gŵr.
Dywedodd Siân: "Mi wnes innau fyw drwy'r profiad o fod dan fygythiad o gael ein troi allan o'r fferm deuluol.
“Dyna'r ysbrydoliaeth arweiniodd at sgwennu Dal dy Dir.
“Gobeithio bydd y nofel yn amlygu'r peryglon i'n ffordd o fyw yng nghefn gwlad Cymraeg Cymru heddiw.”
Nofel fer yw hon â stori fachog er mwyn ei gwneud hi’n haws i godi llyfr a mwynhau.
Mae’r penodau yn fyr a’r iaith yn apelgar er mwyn denu cynulleidfa o bob oed.
Ceir digwyddiadau cyfoes, credadwy, a llwyddir i bortreadu darlun gonest o gymdeithas heddiw wrth i bobl leol frwydro am gartrefi, wrth i deuluoedd chwalu ac wrth i’r Gymraeg wynebu bygythiadau oherwydd mewnlifiad.
Ond yng nghanol y cyfan, mae cyfeillgarwch y Cymry yn gryf ac mae’r merched, yn enwedig, yn cyd-dynnu er gwaethaf yr heriau a’r tor calon sy’n eu hwynebu, gan gefnogi ei gilydd er mwyn sicrhau dyfodol sefydlog i’w plant, i’w hardal a’r ffordd Gymreig o fyw.
Disgrifiodd Bethan Jones Parry y nofel yn “bortread byrlymus a go agos ati o fywyd trigolion y Gymru Gymraeg wledig.”
Dyma nofel gyntaf Siân Williams ond mae’n bosib y clywn ni ragor am hynt a helynt Cerys Ifans a thrigolion Penrhynsiriol yn y dyfodol.
Yn ôl Siân: “Fel awdur newydd, mae fy niolch yn fawr i'r Lolfa.
“O'r munud wnes i gyflwyno sampl o fy ngwaith, mae'r golygyddion wedi fy meithrin gydol y broses.
“Mae'r addysg ges i ganddyn nhw yn amhrisiadwy.”
Mae Siân wedi ymgartrefu bellach yng Nghrawia, Llanrug, gyda’i gŵr a’i mab. Mae hi’n cyfrannu’n gyson i Golwg, North Wales Chronicle a Nation.Cymru.
Cyhoeddir Dal dy Dir gan Siân Williams ar Fawrth 8fed (£9.99, Y Lolfa)