MAE’R ddarlledwraig a’r newyddiadurwraig Sian Lloyd, yn cyflwyno cyfres newydd ar S4C sydd yn ymchwilio i mewn i rai o droseddau tywyll Cymru.

Yn y gyfres chwe phennod Troseddau Cymru gyda Sian Lloyd bydd Sian yn ail ymweld ag achosion nodedig o’r gorffennol gan daflu mwy o olau ar y straeon cymhleth a thrist.

Bydd pob pennod yn mynd i'r afael ag achos gwahanol, yn amrywio o gamweddau cyfiawnder i ddigwyddiadau troseddau dychrynllyd, ac yn archwilio sut mae ymchwiliadau, newidiadau cymdeithasol a datblygiadau mewn gwyddoniaeth fforensig wedi dylanwadu ar eu canlyniadau.

I Sian Lloyd, mae’r gyfres hon hefyd yn un bersonol. Mae gan Sian ei hun ddiddordeb yn y pwnc sy'n dyddio'n ôl i’w chyfnod yn darllen y gyfraith yn y Brifysgol ac mae wedi bod yn newyddiadurwraig y rhan fwyaf o'i bywyd. Mae'r gyfres hon wedi caniatáu iddi gyfuno'r ddau ddiddordeb.

Meddai Sian: “Mae hwn wedi bod yn brosiect mor werthfawr i mi. Roeddwn i fy hun wedi adrodd am rai o’r troseddau yn y gyfres, ond ar y pryd doedd dim cyfle bob amser i fynd i’r afael â’r cefndir yn llawn, ond y tro hwn rwy'n cael edrych yn ddyfnach.

“Dwi hefyd yn falch fy mod i'n cael gwneud hyn yn Gymraeg. Dwi wedi bod yn ffodus i gymryd rhan mewn nifer o raglenni Cymraeg dros y blynyddoedd, ond mae cael arwain ar gyfres sydd wir o ddiddordeb i mi yn destun balchder.”

Mae'r rhaglen gyntaf yn y gyfres afaelgar hon, yn cymryd Sian i’w hardal enedigol yn y gogledd ddwyrain, yno mae'n ailymweld ag achos iasol o dreisio a lladd Janet Commins, 15 oed, merch ifanc o'r Fflint. Fe wnaeth yr achos synnu pawb yng Nghymru a daeth yn esiampl enwog o gamweinyddu cyfiawnder.

Yn yr ymchwiliad cychwynnol, arestiodd yr heddlu a chyhuddo dyn 18 oed o'r gymuned Deithio gyfagos, Noel Jones, ar ôl iddo gyfaddef i'r drosedd yn dilyn cwestiynu'r heddlu. Roedd ei gyfaddefiad yn cael ei ystyried yn gam pwysig, ond parhau wnaeth yr amheuon am yr ymchwiliad.

Mae Sian yn siarad gyda'r cyn-blismon oedd ar ddyletswydd pan adroddodd rhieni Janet ei bod ar goll.

Mae Dafydd Peacock yn cofio'r noson dyngedfennol pan gerddon nhw i mewn i orsaf heddlu'r Fflint: “Dwi'n cofio dweud wrthyn nhw i beidio poeni, y baswn ni'n dod o hyd iddi.

"Wedyn y teimlad eich bod chi wedi gadael y teulu i lawr – fedra i fyth ddod dros hynny. Dio ddim yn eich gadael chi... chwilio amdani hi fel person oedden ni, wnes i erioed feddwl ein bod ni yn chwilio am gorff."

40 mlynedd yn ddiweddarach, cafodd dyfarniad euog Noel Jones ei gwirdroi pan cafwyd dystiolaeth DNA newydd oedd yn pwyntio’r bys at unigolyn hollol wahanol fel y gwir droseddwr. Roedd yr achos yn cael ei ystyried yn un o'r achosion mwyaf unigryw yn hanes cyfreithiol Prydain.

Mae yna gyfweliad hefyd gyda'r cyn-Ditectif Uwcharolygydd Iestyn Davies oedd wedi gweithio ar yr achos yn 2016. Mae'n cofio derbyn galwad ffôn fyddai'n newid ei yrfa.

Meddai Iestyn Davies: “Derbyniais alwad ffôn gan y Labordy Fforensig yn esbonio bod staen a gymerwyd o drowsus Janet yn 1976, a oedd wedi'i gadw ar gronfa ddata, wedi dod fyny yn erbyn DNA rhywun, dyn yn ei bumdegau hwyr o'r enw Stephen Hough. Roedden ni wedi cael match.”

Mae'r achos yn parhau i fod yn un o'r camweinyddiadau cyfiawnder mwyaf yn hanes cyfreithiol Cymru.

Trwy gyfweliadau gyda theulu Janet a phobl sy'n ymwneud â'r achos, mae'r bennod yn datgelu sut y gwnaeth technegau fforensig newydd, yn enwedig dadansoddi DNA, arwain at gael dyn yn ddi-euog yn y pen draw a chanfod y troseddwr go iawn yn euog.

Trwy gydol y gyfres, mae Sian yn pwysleisio pwysigrwydd uniondeb personol a phroffesiynol wrth geisio cyfiawnder.

Fel newyddiadurwraig uchel ei pharch, mae'n dod â phersbectif unigryw i'r straeon hyn, gan ddangos ei hempathi a'i dealltwriaeth o'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â'r achosion proffil uchel hyn.

Nid yw Troseddau Cymru gyda Sian Lloyd yn archwiliad o bynciau tywyll ac anodd yn unig. Mae hefyd yn ein hatgoffa o gryfder yr ysbryd ddynol, grym dyfalbarhad, a'r angen i ddwyn y system gyfiawnder i gyfrif.

Troseddau Cymru gyda Sian Lloyd

Nos Fercher, 29 Ionawr 21.00

Ar alw: S4C Clic ac iPlayerCynhyrchiad Wildflame ar gyfer S4C