MAE gŵr a symudodd o Nigeria i Gymru i astudio’r gyfraith wedi ddechrau dysgu’r Gymraeg er mwyn dod i adnabod y wlad yn well.

Symudodd Kayode Aseweje i Gymru yn 2019 a dechreuodd ddysgu Cymraeg ar Duolingo yn 2021.

Wedi cael blas ar ddysgu’r iaith dilynodd gwer Dysgu Cymaeg trwy ei waith fel paragyfreithiwr i Bartneriaeth Cydwasanaethau gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig cynllun Cymraeg Gwaith i gryfhau sgiliau Cymraeg pobl yn y gweithle. At hyn o bryd mae Kayode yn gwneud cwrs Mynediad 2.

Meddai: “Cyn dod yma i astudio, do’n i ddim yn gwybod llawer am yr iaith, nac am Gymru fel gwlad. Am fy mod i’n byw yng Nghymru, ro’n i’n awyddus i ddysgu mwy am yr iaith.

“Dw i’n mwynhau dysgu am bethau newydd, am hanes a diwylliant, ac mae dysgu’r iaith yn ffordd i fi ddod i ’nabod Cymru’n well.”

Yn hoff o ddysgu ieithoedd ac yn credu eu bod yn rhan o ddiwylliant, mae Kayode yn gallu siarad Ffrangeg, Saesneg, Yoruba, Creoliaith Nigeriaidd a thipyn bach o Hawsa. Mae’n dweud mai’r peth gorau am ddysgu Cymraeg yw ei fod yn ei helpu i ddeall Cymru’n well.”

Ychwanegodd: “Dw i wedi bod yn mwynhau dysgu am y Mabinogion, am ganeuon, a darganfod pethau newydd.

“Dw i wedi dysgu am yr anthem genedlaethol, ac wedi ymweld â chofeb Evan a James James ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd.”

Yn disgrifio’i hun fel person creadigol sy’n mae’n mwynhau actio a chanu, mae wedi cymryd rhan mewn nifer o sioeau yn Theatr y Sherman, Caerdydd, ac mae’n hoff o ganu yn yr eglwys.

Ei gyngor ef i unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg yw: “Mae symud i wlad arall a dysgu iaith newydd yn gallu teimlo’n anodd, ond, mae’n ffordd o ddysgu mwy am y diwylliant. Os dach chi’n cael cynnig i ddysgu Cymraeg, ewch amdani.”