Bydd saith o gomedïwyr y dyfodol yn cael cyfle i arddangos a datblygu eu doniau mewn cyfres newydd ar S4C, Academi Gomedi.

Dros gyfnod o 6 wythnos, bydd y saith, sydd rhwng 9 ac 11 oed, yn treulio’u hamser yn yr Academi Gomedi yn dysgu gan rai o oreuon y maes.

Yn arwain (ac yn Brifathro ar yr Academi) bydd y digrifwr poblogaidd Steffan Alun, a bydd yntau’n cefnogi’r criw wrth iddyn nhw feithrin eu sgiliau comedi. Yn ystod y gyfres, bydd Steffan yn croesawu comedïwyr adnabyddus, gan gynnwys Iwan John, Esyllt Sears, Beth Jones, Eleri Morgan a llu o wynebau eraill i gynnal gweithdai arbennig a rhannu eu profiadau.

Ar ddiwedd eu hamser yn yr Academi bydd y saith yn camu ar y llwyfan i berfformio sioe arbennig o flaen eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Y comediwyr ifanc fydd yn ddisgyblion yn yr Academi Gomedi yw:

  • Cari, 9 oed o Ynys Môn
  • Davy, 11 oed o Gaerfyrddin
  • Harri a Daniel, ffrindiau 10 oed o Landysul
  • Mali a Macsen, efeilliaid 9 oed o Benarth
  • Myfi, 11 oed o Gaerdydd.

Meddai Staffan Alun: “Roedd y plant yn ffantastig – i gyd yn ddoniol ac yn dalentog iawn; roedd hwn yn gyfle gwych iddyn nhw. Roedden nhw mor wahanol i’w gilydd. Os fyddan nhw eisiau gyrfa mewn comedi, mi wnewn nhw lwyddo i wneud hynny."

Mae meithrin talent comedi ymhlith pobl ifanc yn hollbwysig ar gyfer dyfodol comedi: Mae comedi yn Gymraeg wedi bod yn tyfu ers blynyddoedd, ac mae mwy a mwy yn gnweud standyp. Dan ni yn wlad sy’n cynhyrchu comedi; mae’n rhan o’n traddodiad a’n diwylliant ni, ac mae’n boblogaidd.

“Mewn 10 mlynedd bydd y plant ‘ma’n oedolion; dwi’n edrych mlaen i’w gweld nhw ar lwyfan go iawn mewn nosweithiau comedi proffesiynol, a dwi’n siwr y byddwn ni.”

Bydd y gyfres i’w gweld o 19 Chwefror am 17:15 yn rhan o Stwnsh, gwasanaeth S4C i blant, yn ogystal ag S4C Clic a BBC iPlayer.