BYDD tri myfyriwr yn derbyn bwrsariaeth gwerth £3,000 yr un i astudio mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Jacob Matthew Redmond, o Brifysgol Aberystwyth, ac Iwan Rhys Bryer a Siôn ap Llwyd Dafydd, o Brifysgol Caerdydd, yw’r tri myfyriwr fydd yn derbyn Bwrsariaeth Gareth Pierce eleni.
Mae’r bwrsariaethau yn cael eu cynnig i hyd at dri myfyriwr israddedig sy’n astudio o leiaf draean o’u cwrs gradd mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Roedd Jacob Matthew Redmond o Gaerdydd wrth ei fodd i glywed ei fod wedi ennill y fwrsariaeth i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Meddai: “Dwi’n mwynhau byw yn Aberystwyth, ac mae’r cwrs hyd yn hyn yn arbennig.
“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Coleg ac i CBAC am y fwrsariaeth. Yn y dyfodol rwy’n gobeithio gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn fy nghymuned yn y sector ariannol.”
Mae Iwan Rhys Bryer o Lanarthne, Sir Gaerfyrddin, yn falch iawn ei fod yn gallu astudio rhan o’i gwrs trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn apelio at gyflogwyr sy’n chwilio am weithwyr gyda sgiliau dwyieithog yn y dyfodol.
Meddai: “Mae’n bwysig iawn fy mod i’n gallu astudio mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn fy ngalluogi i adeiladu terminoleg ac arbenigedd yn y ddwy iaith.
“Dwi’n ddiolchgar i fy athrawon yn Ysgol Bro Myrddin am fy ysbrydoli i astudio mathemateg yn y brifysgol, ac i CBAC a’r Coleg Cymraeg am y gefnogaeth.”
Mae Siôn ap Llwyd Dafydd, o Ffos y Gerddinen ger Caerffili, wedi bod yn angerddol dros fathemateg ers yn blentyn ifanc pan ddechreuodd ddatrys posau.
Meddai: “Rwyf wrth fy modd yn astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd ac rwy’n edrych ymlaen at fod yn athro neu’n ddarlithydd Mathemateg yn y dyfodol.
“Roedd yn bwysig iawn i mi barhau gyda fy addysg cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol ar ôl gadael yr ysgol oherwydd Cymraeg yw fy iaith gyntaf.”
Cafodd y fwrsariaeth ei sefydlu yn 2022 er cof am Gareth Pierce, oedd yn Gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chyn hynny yn Brif Weithredwr Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC), cyn iddo farw’n sydyn yn 2021.
Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg: “Ar ran y Coleg, hoffwn longyfarch Iwan, Siôn a Jacob ar ennill Bwrsariaeth Gareth Pierce eleni.
“Mae’n fraint cefnogi’r fwrsariaeth yma er cof am gyfaill, cydweithiwr, a ffigwr dylanwadol a wnaeth gyfraniad allweddol i’r coleg a’r maes addysg yng Nghymru yn ehangach.
“Rydyn ni’n ddiolchgar tu hwnt i deulu Gareth ac i CBAC hefyd am eu cefnogaeth. Dymunwn bob llwyddiant i'r myfyrwyr yn y dyfodol.”
Meddai Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: "Mae cynllun bwrsari Gareth Pierce bellach yn ei drydedd flwyddyn, ac mae ei boblogrwydd cynyddol yn adlewyrchu brwdfrydedd Gareth dros fathemateg a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Ar ran CBAC, hoffwn longyfarch Jacob, Iwan a Siôn, sydd wedi ennill y fwrsariaeth nodedig hon.
“Pob hwyl iddynt gyda'u hastudiaethau, a gobeithio y bydd y bwrsari'n golygu eu bod yn gallu ffynnu yn eu cyrsiau perthnasol."