FEL rhan o ddathliadau pen-blwydd y gyfres ddrama boblogaidd Rownd a Rownd yn 30 mlwydd oed yn 2025, mae cwmni cynhyrchu Rondo Media yn cyhoeddi Cwrs Awduron Newydd i feithrin y genhedlaeth nesaf o awduron teledu Cymraeg.
Mae Rownd a Rownd yn gyfres ddrama boblogaidd wedi’i lleoli yng ngogledd Cymru sy’n dilyn hanes trigolion pentref dychmygol Glanrafon.
Dros gyfnod o bedwar mis, mewn person ac ar-lein, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cymryd rhan mewn rhaglen rhan amser ddeinamig sydd wedi cael ei ddylunio gan Rondo Media i ysbrydoli, addysgu a rhoi cyfle i leisiau’r dyfodol fireinio eu crefft.
Mae’r cwrs yn cynnwys:
- Dosbarthiadau meistr dan arweiniad arbenigwyr yn y diwydiant sy’n cynnig mewnwelediad amhrisiadwy i dechnegau adrodd straeon a sgwennu ar gyfer y sgrin.
- Mentora un-i-un gyda thiwtoriaid profiadol fydd yn rhoi arweiniad ac adborth ar hyd y ffordd.
- Dysgu sut mae cynnig a chyflwyno syniadau i sianeli a chwmnïau cynhyrchu.
- Cyflwyniad i ochr fusnes y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.
Mae’r rhaglen yn agored i unrhyw unigolyn sy’n llawn brwdfrydedd, creadigrwydd, ac sy’n credu bod ganddyn nhw syniadau ffres ar gyfer cyfresi teledu.
Meddai Bedwyr Rees o Rondo Media: "Mae Rownd a Rownd yn gyfres sydd wedi bod yn ganolog i feithrin talentau o flaen, a thu ôl i’r camera, ar hyd y blynyddoedd.
“Wrth i ni nodi’r garreg filltir hon, rydym ni'n awyddus i roi cyfle i’r genhedlaeth nesaf o ‘sgwennwyr ddatblygu eu crefft ymhellach.”
Meddai Gwenllian Gravelle, Pennaeth Ffilm a Drama S4C: “Mae meithrin talent yn rhywbeth rydym ni’n angerddol amdano fel darlledwr, ac mae’r mentrau hyn yn ein galluogi i wneud hynny. Mae angen buddsoddi yn nhalent newydd y byd teledu er mwyn sicrhau dyfodol disglair drama ar S4C.”
Mae rhagor o wybodaeth am sut mae gwneud cais i'w canfod ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Rondo Media a Rownd a Rownd.
Y dyddiad cau am geisiadau yw hanner dydd, dydd Llun 10 Chwefror 2025.
Mae modd gwylio Rownd a Rownd ar S4C bob nos Fawrth a nos Iau am 8.25, ac ar S4C Clic a BBC iPlayer.