MAE Meleri Wyn James yn cyhoeddi nofel ddirgelwch newydd, Dim Ond Un (Y Lolfa).

Mae’n nofel afaelgar sy’n cyfuno cyffro, tensiwn a throeon annisgwyl, mewn lleoliad unigryw ar Ynys Enlli. Yn oriog o densiwn a chyfrinachau, mae’n nofel sy’n gafael o’r bennod gyntaf ac yn dal y darllenydd hyd nes y diwedd.

Dilyna’r nofel y ddau brif gymeriad, Carys a Nav, wrth iddynt fentro i Ynys Enlli i ddechrau pennod newydd yn eu bywydau. Mae’n newid byd i’r ddau ac yn gyfle i Carys wella ar ôl cael ei hanafu mewn damwain sydd wedi effeithio ar ei chorff ac ar ei chof.

Ond o fewn oriau, mae’r tywydd yn troi ac mae yna gymylau duon uwch bennau’r ddau. Pan mae corff yn cael ei ganfod mae’r freuddwyd o fywyd newydd yn troi’n hunllef ac mae sawl cyfrinach yn dod i’r wyneb.

Y man cychwyn oedd wythnos gofiadwy a dreuliodd Meleri ar Enlli flynyddoedd yn ôl, pan fu’n ysgogi plant i ysgrifennu ar yr ynys. Yn ystod y cyfnod, fe droiodd y tywydd a chwalwyd y cynlluniau gwreiddiol.

“Yn anffodus, dim ond un diwrnod oedd hi’n bosib i’r plant ddod i Enlli a hynny oherwydd y tywydd. Er bod y môr yn rhy arw i hwylio roedd hi’n ddigon braf ar yr ynys ei hun ac fe ges i wythnos fendigedig yn dod i nabod Enlli,” meddai Meleri.

Gwnaeth Enlli argraff fawr arni, ac yn ôl Meleri: “Mae wedi bod yn ddifyr, fel awdur, i ailymweld â’r ynys ac i ddychmygu sefyllfa hollol wahanol – beth fyddai’r ymateb petai corff yn cael ei ganfod?”

Fel un sydd wrth ei bodd gyda straeon dirgelwch a nofelau whodunit, dywedodd: “Ro’n i am roi cynnig ar greu fy stori ddirgelwch fy hun, ac fe darodd fi y byddai Enlli yn lleoliad perffaith.

“Ar ôl y ddamwain mae Carys yn ymwybodol nad yw ei chof yn hollol ddibynadwy. Mae hynny’n gwneud iddi amau pobol, hyd yn oed y rhai sydd fwyaf agos iddi. Fel un sy’n byw gydag epilepsi mae gen i ddiddordeb yn niffygion y cof.”

Yn adeiladu ar lwyddiant ei nofel flaenorol Hallt, a enillodd Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2023, mae Meleri yn gobeithio y bydd Dim Ond Un yn bachu’r darllenwr o’r cychwyn ac yn gwneud yr un argraff â Hallt.

“Mae’r stori’n wahanol iawn ond yn dal yr un tensiwn cyffrous,” meddai Meleri.

Mae’r nofel eisoes wedi ennyn canmoliaeth gan yr awdur Alun Davies sy’n ei disgrifio fel “Gafaelgar a llawn dirgelwch. Nofel glawstroffobig, yn gyforiog o densiwn a chyfrinachau. Mae’n wir anodd peidio â throi i’r dudalen nesa.”

 hithau yn gweithio ym myd cyhoeddi llyfrau Cymraeg, mae Meleri yn gobeithio y bydd darllenwyr yn cefnogi’r diwydiant drwy brynu’r nofel.