MAE ‘na ddathliad gwerin newydd ar ddigwydd yng Ngheredigion ar ddydd Sadwrn, 26 Hydref.
Er nad yw’r broses o gyd-brynu Ysgol Cribyn wedi dibennu mae ‘na frwdfrydedd awr yn y pentref i gofio am un o gyn-brifathrawon yr ysgol a gyflawnodd gorchest mawr ar ran treftadaeth gwerin Cymru.
Medd Euros Lewis, arweinydd menter yr ysgol: “Tra’r oedd e yma sylweddolodd John Ffos Davies pa mor gyfoethog oedd ardal Cribyn o ran ei chaneuon gwerin.
“Aeth ati i’w cywain a’u cofnodi - Y March Glas, Twll Bach y Clo, Yr Hogen Goch ac ati.
“Oni bai iddo wneud hynny, gan mlynedd union yn ôl, mae’n fwy na thebyg y bydde nhw wedi hen ddiflannu erbyn hyn.”
Gŵyl undydd fydd hon am y flwyddyn gyntaf gyda sesiwn straeon a chwedlau lleol a chyd-ganu caneuon gwerin i blant oedran meithrin a chynradd yn y prynhawn (2yp) a’r hyn mae’r trefnwyr yn ei galw’n ‘noson lawen wirioneddol lawen’ gyda’r nos (7.30yh).
Ychwanegodd Euros: “Fydd ddim llwyfan, mond llond neuadd yr ysgol o bobol yn barod i rannu o’u doniau amryddawn a’u parodrwydd i gyd-ganu eu hochor hi.”
Un o’r doniau hynny fydd Cleif Harpwood, sy’n edrych mlaen, medde fe, at fynd nôl at ei wreidiau gwerin a’r caneuon ddysgodd yn Aelwyd Pontrhydfelen, slawer dydd - gan gynnwys caneuon Ffos Davies wrth gwrs.
Llwyfanir yr ŵyl â chefnogaeth ariannon gan gronfa Eos.