MI fydd S4C yn dathlu siaradwyr Cymraeg newydd eleni trwy gymryd rhan yn yr ‘Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg’ rhwng 14-18 Hydref, mewn partneriaeth â BBC Radio Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Caiff yr wythnos ei chynnal i gyd-fynd â Diwrnod Shwmae Su’mae ar 15 Hydref, ac mae’n gyfle arbennig i dynnu sylw at gynnwys y sianel sy’n helpu pobl i ddysgu’r iaith..

Mae S4C yn cynnig llu o adnoddau i ddysgwyr o bob safon. A hithau yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd, mae gwledd o raglenni amrywiol S4C gyda rhywbeth i siwtio pawb.

Man cychwyn da yw’r adran o wefan S4C i ddysgwyr yn benodol; S4C.cymru/dysgucymraeg . Dyma ffynhonnell yr holl wybodaeth mae dysgwyr ei hangen i deimlo’n gartrefol gyda S4C, gan gynnwys sut mae dod o hyd i raglenni o ddiddordeb.

Mae holl raglenni S4C ar gael i’w gwylio ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer, ac mae adran arbennig ar S4C Clic yn gasgliad o raglenni sy’n dathlu dysgu Cymraeg.

Yn eu mysg mae holl benodau Iaith ar Daith; cyfres sy'n estyn gwahoddiad i rai o enwau mwyaf Cymru, neu sydd â chysylltiad â Chymru, i ddysgu Cymraeg. Gallwch ddilyn siwrne Ian ‘H’ Watkins, y canwr o’r grŵp pop Steps, y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Josh Navidi, a’r DJ a chantores Aleighcia Scott i ddysgu’r iaith gyda’u mentoriaid.

Yng nghyfres Y Sîn, mae Francesca Sciarrillo a Joe Healy, cyn-enillwyr Dysgwyr y Flwyddyn (yn Eisteddfod yr Urdd 2019 i Francesca, ac yn Eisteddfod Genedlaethol 2022 enillodd Joe) yn bwrw golwg dros y sîn greadigol ifanc yng Nghymru.

Yn y gyfres Stori’r Iaith mae’r digrifwr Elis James yn mynd ar daith bersonol i ddarganfod mwy am hanes yr iaith Gymraeg.

Cyfle i olrhain taith bywyd rhai o wynebau adnabyddus Cymru, a hynny yng nghwmni’r cyflwynydd Owain Williams, yw Taith Bywyd – gyda hanesion dirdynnol, doniol a difyr y gitarydd byd-enwog Peredur ap Gwynedd, y cyflwynydd, dylanwadwr a’r actifydd Jess Davies, a’r cyn-Aelod Seneddol Siân James yn eu plith.

Mae cyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C – YouTube, Instagram, X a TikTok - hefyd yn cynnig cynnwys arbennig i ddysgwyr, gyda fideos byr i gefnogi’r dysgu sy’n berffaith i’w gwylio tra’n gwneud paned neu’n aros am y bws!

Ffordd arall o ddysgu a gwella sgiliau Cymraeg yw gwylio a darllen y Newyddion. Ar wefan S4C ac app Newyddion S4C mae tab ‘Dysgu Cymraeg’ yn cynnwys cymorth ychwanegol i ddysgwyr.

Os am awgrymiadau o gynnwys i’w wylio, yn ogystal â geiriau defnyddiol, gwybodaeth ar bobl adnabyddus a mwy, gallwch danysgrifio i gylchlythyr S4C i ddysgwyr. Bydd modd derbyn e-bost bob mis, gyda Chymraeg syml ar un ochr a’r Saesneg ar yr ochr arall – yn rhoi cyfle gwych i ymarfer darllen yn y Gymraeg.

Mae BBC Radio Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi bod yn cynnal yr Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ar gyfer dysgwyr a siaradwyr Cymraeg newydd ers sawl blwyddyn, ac mae S4C yn falch o ymuno â hwy i gefnogi eleni.

Meddai Sara Peacock, Pennaeth Tîm Strategol S4C, sy’n arwain ar Strategaeth y Gymraeg o fewn y sianel: “Fel rhywun sydd wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn fy hun, rwy'n deall pa mor bwysig yw'r cyfryngau yn nhaith dysgu iaith.

“Rydym ni yn S4C yn adnabod hefyd y rôl allweddol mae dysgwyr a siaradwyr newydd yn eu chwarae yn nyfodol ein hiaith, tra ein bod ni gyd yn symud tuag at ein miliwn o siaradwyr.

“Mae'r wythnos hon yn gyfle arbennig i ni ddiolch a dathlu pawb sy'n gwneud yr ymdrech, boed yn cymryd eu camau cyntaf neu’n gloywi sgiliau ieithyddol - mae yna rywbeth i bawb ar S4C.”

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan  Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae creu cyfleoedd i’n dysgwyr ddefnyddio a mwynhau eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth yn rhan bwysig o waith y Ganolfan, ac mae’r Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg yn ffordd dda o hyrwyddo’r holl arlwy ar gyfer siaradwyr newydd. 

“Mae’n gyfle, hefyd, i gael blas ar straeon ysbrydoledig nifer o’n dysgwyr a thynnu sylw at y cyfleoedd amrywiol i ddysgu’r iaith.  Dan ni’n falch iawn bod S4C yn ymuno yn y bwrlwm eleni, ac edrychwn ymlaen at fwynhau wythnos o raglenni ac eitemau difyr.”