MAE’R awdur poblogaidd John Alwyn Griffiths wedi cyhoeddi nofel rif 13 – un bob blwyddyn ers 2011 – ac unwaith yn rhagor, y ditectif poblogaidd Jeff Evans sy’n serennu.

Mae Dan y Ddaear yn agor gyda darganfyddiad erchyll: esgyrn dynol wedi’u claddu mewn cae ar gyrion Glan Morfa.

Tasg Jeff Evans yw darganfod esgyrn pwy ydyn nhw, ers pryd maen nhw yn y cae, ac yn bwysicach, pam y cafodd y dioddefwr ei ladd.

Ond mae digwyddiadau’r presennol yn tynnu ei sylw oddi wrth yr achos, pan ddaw i glywed bod un o’r swyddogion newydd yng ngorsaf heddlu Glan Morfa yn cael ei bwlio yn y gweithle.

Medd John Alwyn Griffiths: “Mae achosion o fwlio ar sail hil, rhyw, rhywedd ac ati yn dod i’r wyneb y dyddiau yma yn llawer amlach nag y dylen nhw.

“Mae o’n digwydd yn y gwasanaethau brys fel ym mhobman arall, yn anffodus, ac mi ydan ni wedi gweld straeon yn y wasg i gadarnhau hynny.

“Mi wnes i benderfynu defnyddio enghraifft o fwlio yn y gweithle – a’i effaith ar yr unigolyn dan sylw – yn y nofel hon er mwyn dod â’r broblem yn nes at adref, ac i ddangos nad yn y lluoedd mawr dinesig yn unig y mae hyn yn digwydd.”

Mae prif gymeriad nofelau John Alwyn Griffiths, Ditectif Sarjant Jeff Evans, yn hen law erbyn hyn: yn llwyddiannus yn ei waith ac yn ŵr a thad parchus.

Medd John: “Bydd fy narllenwyr yn gofyn i mi o dro i dro pam nad ydi o wedi cael dyrchafiad yn y llu.

“Yn fy mhrofiad personol i, mae Arolygydd neu Dditectif Arolygydd (y cam nesaf iddo petai’n cael dyrchafiad) yn gwneud mwy o gyfarwyddo a gwaith papur o’r tu ôl i’w ddesg na dim byd arall, a phwy sydd isio darllen am rywun sy’n gwneud hynny o ddydd i ddydd?

“Dyna’r realiti, mae gen i ofn.

“Allan yn y byd mawr mae’r cyffro, ac nid Arolygydd, Prif Arolygydd neu Uwch-arolygydd fydd yn gwneud yr ymholiadau dyddiol, fel sydd i’w weld mewn dramâu teledu yn aml.”

Meddai Tweli Griffiths, mewn adolygiad ar Gwales.com: “Diolch fod gennym yng Nghymru awdur Cymraeg sy’n feistr ar y grefft o ysgrifennu nofel dditectif.”

Bydd Dan y Ddaear ar werth ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg-gwalch.cymru a www.gwales.com, o 27 Medi.