MAE Meinir Howells, cyflwynydd teledu poblogaidd ac un o ffigurau mwyaf adnabyddus y byd amaeth yng Nghymru, wedi lansio ei hunangofiant Ffermio ar y Dibyn.
Mae'r llyfr yn adrodd stori Meinir fel cyflwynwraig, ffermwr ac fel mam, gan gynnig cipolwg agos-atoch ar ei thaith bersonol, a'r heriau sy'n wynebu’r byd amaeth heddiw.
Yn Ffermio ar y Dibyn, mae Meinir yn rhannu straeon personol o dyfu i fyny ar ei fferm deuluol ger Llandeilo, o fod yn aelod o fudiad y Ffermwyr Ifanc i fod yn gyflwynwraig, yn wraig ac yn fam.
Ond mae hefyd yn mynd o dan groen y realiti sy'n wynebu ffermwyr heddiw, gan daflu goleuni ar yr heriau a’r newidiadau sylweddol sydd wedi digwydd yn y sector ffermio dros y blynyddoedd.
“Dwi'n gobeithio bydd pobl yn darllen y llyfr, yn gwerthfawrogi ymroddiad a dygnwch ffermwr wrth sicrhau cyflenwad o fwyd safonol ar y plât yn ddyddiol, ond hefyd yn cael taith nôl mewn amser wrth gofio am arferion ffermio a'r gymuned wledig yn ystod fy mhlentyndod,” meddai Meinir.
Mae’r llyfr hefyd yn datgelu’r heriau personol y mae Meinir wedi’u hwynebu wrth gydbwyso bywyd teuluol gyda’i gwaith fel cyflwynydd ac aelod o’r gymuned.
“Dwi'n gobeithio y bydd pobl yn medru uniaethu â’r heriau dwi'n eu trafod — o orfod jyglo gwahanol brosiectau gyda bywyd bob dydd.
“Dyw bywyd byth yn berffaith a bydd e byth chwaith. Faint ohonom ni sy'n teimlo'n euog am bethau sydd tu hwnt i'n gallu ni i newid? Faint ohonom ni sydd wedi methu cael y plant i'r gwely erbyn amser call? Neu wedi methu parti neu ddigwyddiad? Peidiwch bod yn galed ar eich hunain, does neb yn berffaith!” meddai.
Yn ogystal â stori Meinir, mae’r hunangofiant yn cynnwys rhagair arbennig gan y dyfarnwr rygbi, Nigel Owens lle mae’n canmol holl rinweddau, a chyfraniad helaeth Meinir i’r byd amaeth dros y blynyddoedd.
Yn y rhagair, mae Nigel yn dweud: “Mae Meinir Howells yn enghraifft o sut all merch lwyddo mewn byd macho, gwrywaidd iawn, rhywbeth rwy’n ei edmygu’n fawr ynddi.
“Mae hyn yn dangos rhyw nerth cymeriad anhygoel, yn fy marn i. Mae’n esiampl, nid yn unig i ferched Cymru, ond i bawb.”
Wrth gynnig darlun gonest a gafaelgar o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu ffermwyr heddiw, mae Ffermio ar y Dibyn yn sicr o ysbrydoli a chyffroi darllenwyr o bob cefndir.
"Dwi'n gobeithio y bydd y llyfr yn apelio at ystod eang o bobl wrth imi sôn am fy mhlentyndod, fy amser gyda'r CFfI, fy ngwaith gyda'r cyfryngau, fy rôl fel ffermwraig a'm swydd bwysicaf fel Mam," meddai Meinir.
Ychwanegodd: "Mae'n deimlad swreal iawn, a dwi'n nerfus tu hwnt!
“Mae llu o bethau dwi wedi methu rhoi yn y llyfr — oherwydd byddai fe LOT rhy hir. Blas yw'r llyfr o'r daith hyd yn hyn.
“Mae tîm Lolfa ac Andrew Teilo wedi bod yn graig o nerth yn ystod y cyfnod, a dwi'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu hamynedd. Heb anghofio'r ysbrydoliaeth fwyaf, Gary, Sioned a Dafydd."
Ffermio ar y Dibyn, Meinir Howells, Y Lolfa, £11,99, Meinir Howells ac Andrew Teilo