CYNHELIR Darlith Flynyddol Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru ar ddydd Mercher, 27 Tachwedd, yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Y siaradwr gwadd fydd yr Athro Paul O’Leary a theitl ei ddarlith yw ‘Yr Apêl at Hanes: y Presennol, y Gorffennol a Mytholeg Gynhaliol Gwleidyddiaeth Cymru'.

Bydd y ddarlith yn cychwyn am 5.30pm ac mae croeso i bobl ymuno wedyn am ddiod a lluniaeth ysgafn.

Gofynnir i chi gofrestru drwy lenwi’r ffurflen ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yma

Crynodeb o’r ddarlith

Pam fod gwleidyddion blaenllaw yn cyfeirio at hanes mor aml? A pha fath o hanes sy'n apelio atynt?

Bydd y ddarlith hon yn dangos bod gwleidyddion yn mowldio hanes at ddibenion y presennol ac yn gwau mytholegau i gyfreithloni eu safbwyntiau heddiw.

Bwriad y ddarlith yw archwilio'r mytholegau hyn mewn ymgais i ddangos sut maen nhw'n effeithio ar ein diwylliant gwleidyddol a'r drafodaeth ar hanes yn y pau cyhoeddus.

Dangosir sut mae gwleidyddion wedi cynhyrchu mytholegau ar gyfer y Gymru ddatganoledig mewn ymgais i greu fersiwn o'r gorffennol sy'n gweddu i'r ffordd newydd o lywodraethu'r wlad – senedd newydd, hanes newydd.

Details in English and registration form: here