MAE cystadleuaeth gyfansoddi Cân i Gymru 2025 – un o hoelion wyth calendr cerddorol Cymru – wedi agor i geisiadau.

Eleni, am y tro cyntaf erioed, caiff y sioe fyw ei chynnal yn stiwdios ffilm Dragon Studios ym Mhenybont ar Ogwr a hynny ar nos Wener 28 Chwefror 2025.

Mae hyn yn dilyn llwyddiant cynnal y gystadleuaeth yn Arena Abertawe eleni pan ddaeth y gân ‘Ti’ gan Sara Davies o Landysul i'r brig.

Y cerddor Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr fydd yn cadeirio’r rheithgor ac yn cyflwyno tlws Cân i Gymru i’r enillydd.

Bydd gwobr o £5,000 i gyfansoddwr y gân fuddugol, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.

Bydd cyfle i wylio’r noson fawr yn fyw ar S4C gyda Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur yn dychwelyd i gyflwyno’r noson.

Ac mae modd ymuno â’r cyffro yn fyw o Dragon Studios, a bydd tocynnau ar gael i’w archebu yn fuan iawn.

Mae’r gystadleuaeth bellach ar agor ac yn croesawu ceisiadau ar gyfer y teitl mawreddog Cân i Gymru 2025.

Y dyddiad cau i wneud cais yw dydd Sul 5 Ionawr.

Dywedodd Osian Huw Williams: “Dwi’n hynod gyffrous o fod nol yn cadeirio rheithgor beirniadu Cân i Gymru eleni – roedd llynedd yn flwyddyn arbennig a’r safon yn uchel, felly fydd hi’n ddifyr iawn gweld beth ddaw y tro hwn!

“Mae Cân i Gymru yn gystadleuaeth hollol unigryw ac yn medru lansio cerddorion o’r ystafell fyw yn syth i'r llwyfan mawr. Mae’n ffordd wych o gael dy enw di allan yno, yn enwedig i bobl ifanc sy’n dechrau eu gyrfa.

“Felly os oes gan rywun alaw sydd yn styc yn eu pen, riff sydd ar flaen eu bysedd neu geiriau sydd yn drwm yn eu calonnau – dyma’r cyfle. Cerwch amdani – does ‘na ddim byd yn stopio chi!”

Er mwyn cystadlu, ewch draw i wefan S4C am ragor o wybodaeth, telerau ac amodau a ffurflen ymgeisio: www.s4c.cymru/canigymru