UNWAITH eto, yn unol â thraddodiad hir Bara Caws o roi llwyfan i bynciau llosg ac o ddryllio delweddau, dyma gyflwyno 1936 gan Gruffudd Owen, drama ddoniol, abswrd sy’n taflu’r chwyddwydr ar rai o elfennau tywyllaf dynoliaeth mewn ffordd ffraeth a difyr. 

Mae’r byd i gyd yn dal i fyw dan gysgod rhyfeloedd, penderfyniadau a phersonoliaethau Lloyd George a Hitler, y ddau ddyn yn y llun sydd ar wal y Penlan Fawr ym Mhwllheli - does ‘mond edrych ar yr erchylltra sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol heddiw i weld hynny.

Mae ysbrydion anniddig y ddau yn parhau i fynnu ein sylw a’n hymateb.

Un o’r ymatebion hynny, ydi’r ddrama hon.

Iwan Charles a Richard Elfyn yw cast y sioe sydd wedi cael ei chyfarwyddo gan Betsan Llwyd.

Mae’r sioe ar daith tan ddydd Sadwrn, 23 Tachwedd yn cynnwys perfformiad yn Theatr Arad Goch, Aberystwyth ar nos Fawrth, 18 Tachwedd.

Mwy o fanylion a sut i brynu tocynnau yma