CAFODD grwpiau cymunedol eu hannog i wneud cais am arian oddi wrth Gynllun Grantiau Bach prosiect Perthyn i helpu'r Gymraeg ffynnu ar Ddiwrnod Shwmae Su'mae.

Gall grwpiau cymunedol wneud cais am grant bach i'w helpu i sefydlu menter gymdeithasol newydd, a/neu brosiectau tai a arweinir gan y gymuned.

Nod y grant yw creu cyfleoedd economaidd, darparu tai fforddiadwy, a chefnogi cymunedau Cymraeg eu hiaith sydd â nifer uchel o ail gartrefi.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae grantiau Prosiect Perthyn yn gyfle gwych i helpu cymunedau i wireddu eu syniadau.

“Maent wedi helpu grwpiau cymunedol i brynu a rhedeg eu tafarndai lleol fel yn Llanuwchllyn a Thafarn Dyffryn Aeron.

“Mae Perthyn hefyd wedi helpu Menter y Tŵr ym Mhwllheli i brynu a rhedeg gwesty sy'n eiddo i'r gymuned, yn ogystal â chefnogi prosiect ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned fel Egni Trefin.

“Gall grantiau bach wneud gwahaniaeth mawr yn eich cymuned leol, felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â syniadau ar gyfer prosiectau er budd eu cymuned ac i gefnogi'r Gymraeg i wneud cais."

Derbyniodd Egni Trefin grant o dros £10,000 i sefydlu menter gymunedol i archwilio ffyrdd o gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae Perthyn hefyd wedi cefnogi cymuned Clynfyw, gyda'r nod o brynu fferm gyda thir i'w rentu, bythynnod i bobl leol, a gwaith.

Dywedodd Rheolwr Asedau Cymunedol Planed, Cris Tomos: "Mae cyllid grant Perthyn yn parhau i fod yn elfen bwysig o ran cymorth ariannol i gamau cyntaf prosiectau cymunedol newydd a rhai sy'n ehangu sy'n datblygu mentrau i gefnogi'r Gymraeg a Chynlluniau Tai Cymunedol.

“Mae llawer o'r busnesau newydd wedi mynd ymlaen i sefydlu cwmnïau cydweithredol cofrestredig sydd bellach yn prynu tir ac eiddo er mwyn rhoi hwb i'r economi leol."

Gweinyddir y cynllun grant gan Cwmpas ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol Cwmpas: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni prosiect Perthyn.

“Mae Perthyn yn gweithio gyda chymunedau i ddod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â diffyg tai fforddiadwy, gwarchod asedau cymunedol a chreu cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol newydd.

“Mae gweinyddu cynllun peilot grantiau bach ar gyfer y cymunedau er mwyn helpu i feithrin gallu lleol a sbarduno eu syniadau o ran busnes a thai wedi bod yn hwb gwirioneddol i ni.”

Mae gwybodaeth ar sut i wneud cais ar gael yma: https://cwmpas.coop/what-we-do/services/perthyn/