MAE 50 o flynyddoedd wedi treiglo heibio ers darllediad cyntaf Pobol y Cwm ’nôl yn Hydref 1974.

Ddiwedd yr wythnos hon, bydd Y Lolfa yn cyhoeddi casgliad difyr o 50 o atgofion a hanesion pobl sydd wedi bod yn rhan o deulu’r gyfres boblogaidd, ac sy’n parhau i fod.

Pobol y Cwm yw opera sebon deledu hynaf y BBC, ac un o’r operâu sebon hynaf yn y byd.

Meddai Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “O fewn cloriau’r gyfrol arbennig hon i ddathlu’r garreg filltir nodedig yma, mae atgofion llu o actorion a chriw sydd wedi sicrhau llwyddiant Pobol y Cwm ar hyd y blynyddoedd.”

Mewn erthygl yn Y Cymro yn 1975, fe ddywedodd Gwenlyn Parry, cyd-sylfaenydd y gyfres, mai’r “nod oedd cynhyrchu stwff y byddai Cymry naturiol yn ei wylio, dim am ei fod o yn Gymraeg, ond am ei fod o’n ddifyr.”

Mae cynhyrchwyr y gyfres wedi glynu wrth yr ethos hwnnw, ac wedi sicrhau bod bywydau trigolion Cwmderi yn adlewyrchu cymunedau pentrefol o’r fath yn y Gymru gyfoes.

Wrth bori drwy’r gyfrol hon, cewch flas ar esblygiad Pobol y Cwm dros y degawdau, a’r ymdrechion i sicrhau bod y cymeriadau’n unigolion o gig a gwaed.

Meddai Dafydd Llewelyn, cynhyrchydd y gyfres: “Dw i’n hynod ddiolchgar i William Gwyn a Dorian Morgan am ymgymryd â’r gwaith o gofnodi atgofion y cast a’r criw o weithio ar y gyfres dros y degawdau.

“Mae’n gofnod pwysig o gyfraniad a hanes y sebon unigryw hwn.

“Mae ’na straeon sy’n codi gwên; mae ’na dristwch, mae ’na lawenydd, a’r cyfan yn adlewyrchu’r cynhesrwydd sy’n ganolog i enaid Pobol y Cwm.”

Mae’r straeon yn nalennau’r llyfr hwn yn eich tywys o ddechrau’r daith yn festri Capel Ebeneser, Charles Street, i Stiwdio C1 yn hen Ganolfan Ddarlledu y BBC yn Llandaf – a Thŷ Oldfield – ac yna i’r cartref newydd ym Mae Caerdydd.

Cawn gipolwg ar yr elfennau – y darnau jig-so – sy’n dod ynghyd i greu’r cyfanwaith; y storïo a’r sgriptio, y golygu a’r cynhyrchu, y saernïo setiau, y ffilmio, y coluro, yr actio, y dybio a’r ôl-olygu… a llawer mwy!

Fel y dywed yr actores Sera Cracroft: “Gwaith tîm ydi Pobol y Cwm ac mae’n bwysig sylweddoli bod pawb yn rhan o’r tîm hwnnw.”

Dywedodd Geraint Evans, prif swyddog cynnwys dros dro S4C: “Mae’n braf croesawu’r gyfrol hon sydd nid yn unig yn crisialu cyfraniad trigolion Cwmderi i arlwy wythnosol S4C ond sydd hefyd yn ddathliad o garreg filltir arbennig yn hanes teledu yng Nghymru a thu hwnt.

“Llongyfarchiadau mawr i Pobol y Cwm am ddiddanu cenedlaethau o wylwyr am hanner can mlynedd.”

Pobol y Cwm, Dathlu’r 50 Drwy Atgof a Llun, Y Lolfa, £14.99.