BYDD Erin Richards, seren Gotham a The Crown, yn ymddangos ar y sgrin fach yn ei rôl gyntaf ers symud yn ôl i Gymru wedi cyfnod llwyddiannus o fyw a gweithio yn Efrog Newydd.

Bydd Erin yn chwarae’r brif ran fel ynad yn yn y ddrama drosedd Ar y Ffin wedi’i lleoli yng Nghasnewydd, sy’n dechrau ar S4C ar 29 Rhagfyr. Bydd bocset ar gael ar S4C Clic a BBCiPlayer o hynny ymlaen yn ogystal.

Mae’r ddrama chwe rhan wedi’i chynhyrchu gan Severn Screen yn dilyn yr ynad profiadol Claire Lewis Jones wrth iddi wynebu helbulon personol tra’n goruchwylio achosion yn Llys yr Ynadon yng Nghasnewydd.

Yn serennu ochr yn ochr ag Erin mae Tom Cullen (The Gold, Becoming Elizabeth) fel y drwgweithredwr Saint Pete.

Mae Ar y Ffin wedi’i hysgrifennu gan yr actores Hannah Daniel (Un Bore Mercher, Creisis), a Georgia Lee, sydd hefyd yn gweithio fel ynad rhan amser.

Meddai Erin: “Nes i ddarllen y tair pennod gyntaf i ddechrau ac ro’n i'n teimlo ei bod Claire yn gymeriad mor ddiddorol ac mewn byd mor real; ro’n i'n ysu i ddarganfod i ble roedd ei stori hi’n mynd, sydd wastad yn arwydd da yn fy marn i.

“Ro'n i'n teimlo mod i'n gallu cydymdeimlo â Claire. Ro’n i'n gallu teimlo fy hun yn y cymeriad.

“Ges i'r amser gorau erioed yn ffilmio'r gyfres yma. Dwi wedi treulio llawer o ‘ngyrfa i'n actio yn America, sydd hefyd yn wych, ond roedd rhywbeth braf iawn am ddod adref i Gymru. Roedd y criw mor hyfryd a chyfeillgar. Wnaethon ni i gyd fondio mor gyflym.”

Cafodd Georgia Lee - a oedd wedi sgwennu’r ddrama ar y cyd gyda’i chyfaill Hannah Daniel - ei hysbrydoliaeth o’i gwaith fel ynad: “Mae'n sefyllfa ddiddorol achos mae'n swydd wirfoddol ac eto mae gennych chi lot o bŵer – mae rhai o'r penderfyniadau yn ddwys iawn, felly roedd hwnnw'n ddechrau.

“Wnaethon ni gymryd Claire fel ein man cychwyn ac roedden ni eisiau creu cymeriad gwirioneddol foesol a dychmygu beth fyddai angen digwydd iddi fod eisiau llywio cyfiawnder, yn y bôn.”

Roedd y lleoliad yn ystyriaeth bwysig arall, ac yn ôl Hannah Daniel mae’n “sinematig iawn”.

Mae’r gyfres yn gyd-gomisiwn rhwng S4C, UKTV ac All3Media International, a bydd yn darlledu fel Mudtown ar sianel drosedd UKTV, U&alibi y flwyddyn nesaf. All3Media International fydd yn ymgymryd â’r gwaith o ddosbarthu'r gyfres y tu allan i'r DU.