MAE’R Smyrffs ar fin dychwelyd i S4C am y tro cyntaf ers 40 mlynedd.
Mae'r sianel Gymraeg wedi prynu trwydded i ddarlledu'r gyfres animeiddiedig gan y perchennog Peyo Company. Caiff ei drosleisio yn Gymraeg gan Cwmni Da a’i dangos ar S4C o Wanwyn 2025.
Wedi'i eni mewn llyfr comig ym 1958, mae cymeriadau bach glas bach Peyo Y Smyrffs wedi diddanu cenedlaethau o blant ledled y byd.
Caiff y gyfres animeiddiedig The Smurfs (2021) ei darlledu ledled y byd ar hyn o bryd ar Nickelodeon, ar sianeli rhad ac am ddim lleol ac mae ar gael ar Netflix.
Yn ddiweddar cyhoeddwyd y bydd ffilm Smurfs newydd yn serennu Rihanna fel Smurfette yn cael ei ryddhau ym mis Gorffennaf.
Meddai Sioned Geraint, Comisiynydd Cynnwys S4C – Plant a Dysgwyr: “Mae'n 40 mlynedd ers i’r Smyrffs fod ar S4C a dwi wrth fy modd y gallwn ailgyflwyno’r cymeriadau bendigedig yma i gynulleidfa newydd yn 2025.
“Mae o wedi bod yn fraint cael gweithio gyda Peyo Company i sicrhau hwn ac i gyfarfod â pherthnasau Pierre Culliford (Peyo); y dyn a greodd y Smyrffs. Mae’r cyfuniad o’u cefnogaeth nhw o ieithoedd lleiafrifol ac uchelgeisiau S4C ei hun wedi creu cartref newydd i’r Smyrffs, a dwi’n gyffrous iawn.”