MAE gwraig o Ben Llŷn wedi llwyddo i olrhain hanes cyfrinach deuluol a gafodd ei gelu ganddi am dros 75 mlynedd.

Yn dilyn siwrne emosiynol, mae Ann Hughes, sy’n 76 oed, wedi darganfod mai milwr Eidalaidd oedd wedi ei gadw’n garcharor rhyfel yng Nghymru oedd ei thad biolegol.

Mae hanes rhyfeddol ei theulu’n cael ei ddatgelu i Ann a’i merch Sioned ym mhennod gyntaf cyfres newydd o Gwesty Aduniad fydd ar S4C ar nos Fercher 27 Tachwedd.

Mae’r gyfres yn dod â phobl sydd wedi colli cysylltiad - neu sydd eisiau cyfarfod am y tro cyntaf – at ei gilydd.

Yn y rhaglen, ceir aduniad emosiynol wrth i Ann gyfarfod â pherthynas i’w thad gwaed am y tro cyntaf erioed.

Roedd Ann yn credu erioed mai’r dyn oedd wedi ei magu oedd ei thad gwaed, nes i’w gŵr ddatgelu y gyfrinach ar ei wely angau.

Nôl yn 1966, ar ddiwrnod eu priodas roedd mam Ann wedi rhannu’r gyfrinach gyda’i mab-yng-nghyfraith, oedd, yn ôl Ann, “‘di siarsio pawb oedd yn gwybod i beidio a deud wrtha i rhag ofn i mi dorri ‘nghalon”.

Daeth y gwir i’r amlwg bum mlynedd yn ôl pan ddatgelodd ei gŵr, oedd ar ei wely angau, y gyfrinach roedd o wedi’i chadw am dros hanner canrif.

Daeth canlyniadau prawf DNA â’r canlyniad annisgwyl bod Ann yn hanner Eidales, ac fe’i harweinwyd at un dyn oedd yn allweddol wrth geisio datrys y cyfan. Ei chefnder cyntaf o’r Unol Dalieithau - Al Cappello.

Roedd cofnodion hanesyddol yn medru cadarnhau mai Salvatore Conti, gŵr o Sisili fu’n garcharor rhyfel yng Nghymru oedd tad Ann a’i fod wedi bod yn byw yn Chwilog ger Pwllheli am gyfnod.

Roedd cofnodion pellach yn nodi i Salvatore Conti deithio ar long o Southampton i Ganada yn 1954 - chwe blynedd wedi i Ann gael ei geni, ac iddo briodi a chael dwy ferch fach; teulu oedd, mae’n debyg, yn ymwybodol o fodolaeth Ann.

Meddai Ann: “Nes i ‘rioed feddwl se’ fo’n digwydd - bod gen i ddwy chwaer fach.”

Mewn moment deimladwy yn y rhaglen, mae Al Capello, sy’n byw yn Buffalo yn yr Unol Daleithau yn cwrdd ag Ann.

Meddai Al: “Pan ddechreuodd hyn i gyd, nes i alw Lina (chwaer Ann) yn yr Eidal a dweud bod posiblrwydd bod plentyn wedi’i eni sydd o bosib yn perthyn i’w thad. Roedd yn sioc i’w system.

"Mae hwn wedi bod yn siwrne a hanner i mi wrth chwilio am y gwir, oherwydd mae teulu yn bwysig. Fi oedd rhan gyntaf y pos am wn i.

“Fy ngobaith yw y gall Ann a fy nghyfnither Lina ffurfio perthynas agosach.”