MAE’R actor enwog Michael Sheen yn lansio cwmni theatr newydd yng Nghymru.
Yn wreiddiol o Bort Talbot, mae’r seren Hollywood yn bwriadu hunan-ariannu Welsh National Theatre ar y cychwyn, gyda’r bwriad i chwilio am fuddsoddiad ariannol cyhoeddus a phreifat.
Disgrifiodd Sheen y penderfyniad fel "gwawr newydd i theatr yng Nghymru".
Daw ar ôl i National Theatre Wales ddod i ben yn swyddogol ym mis Rhagfyr y llynedd ar ôl colli cegnogaeth ariannol £1.6m y flwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd Welsh National Theatre yn sefydliad newydd, a ddisgrifir fel un "ar wahân ond yn cyd-fynd" â Theatr Cymru, a sefydlwyd yn 2003 fel y cwmni cenedlaethol Cymraeg.
Meddai Sheen, fu’n chwarae’r brif ran yn Nye, y ddrama uchel ei chlod gan Tim Price yn ddiweddar: “Dyma wawr newydd i theatr yng Nghymru.
“Byddwn yn gartref i'n talent mwyaf, gan ddod â nhw at ei gilydd i greu theatr uchelgeisiol sy'n gwneud i'n stori genedlaethol ddod yn fyw.
“Dyna beth ddylai theatrau cenedlaethol ei wneud.
“Mae gan Gymru hanes adrodd straeon mor gyfoethog ond nid yw ein straeon yn cael eu harchwilio'n ddigonol yn yr iaith Saesneg, gartref ac yn rhyngwladol.
"Rwyf wedi treulio llawer o'r flwyddyn ddiwethaf ar lwyfan yn chwarae rhan Aneurin Bevan yn Nye Tim Price i dai llawn dop, i mewn ac allan o Gymru.
“Mae gan gynulleidfaoedd awch mawr am ein straeon os ydym yn rhoi cyfle iddynt eu profi.
“Bydd ein perfformiadau yn adrodd hanesion gorffennol, presennol a dyfodol Cymru, yn ogystal â chlasuron a welir trwy lens Gymreig.
"Byddant yn cael eu cynhyrchu ar lwyfannau mawreddog y byd, gan dalentau Cymreig o'r radd flaenaf.
“Rydyn ni eisiau ysgrifennu gwirioneddol uchelgeisiol gan ddramodwyr Cymreig ar gyfer actorion gorau Cymru, i fod yn binacl i'n dawn greadigol, gan godi'r bar am ragoriaeth mewn adloniant.”