BYDD drama dditectif newydd sy’n cyfuno dirgelwch llofruddiaeth gyda charwriaeth hanesyddol, ac wedi ei chreu gan rhai o brif ddoniau’r ddrama drosedd yng Nghymru, ar S4C yr hydref hwn.

Drama gyffrous ac emosiynol yw Cleddau sy’n dilyn DI Ffion Lloyd (Elen Rhys) wrth iddi ymuno â'i chyn-gariad DS Rick Sheldon (Richard Harrington), i ddarganfod pwy sy'n gyfrifol am lofruddio nyrs mewn tref arfordirol yng Ngorllewin Cymru.

Mae’r ddau yn mynd ati i ddod o hyd i'r llofrudd wrth ailedrych ar y gorffennol gyda chanlyniadau dinistriol. Mae Cleddau yn archwiliad fforensig o lofruddiaeth ac o gwlwm cariad, sydd, i fod wedi ei ddatrys, ond mae rhai clymau’n amhosib eu datod. Catherine Tregenna (Three pines, Law & Order, The Bench) ydi awdur y gyfres.

Medd Elen Rhys sydd o Aberystwyth (FBI International / Agatha Raisin S4) ac wedi ymddangos yn y rhaglen boblogaiddThe Mallorca Filesgan Amazon Prime yn ddiweddar: "Dwi wedi bod eisiau gwneud rôl gref yn yr iaith Gymraeg ers amser maith.

"Mae'r criw yma yng Nghymru yn wahanol. Mae'n fach, yn deuluol, yn barchus ac yn broffesiynol.

"Mae gen i atgofion melys iawn o ffilmio ac rwy'n teimlo'n falch iawn o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni."

Medd yr actor o Ferthyr, Richard Harrington (Y Gwyll, Pren ar y Bryn, McDonald & Dodds, Consent, Dalgliesh) mai DS Rick Sheldon, o'r holl rolau y mae wedi'u chwarae, yw'r cymeriad sy'n adlewyrchu ei gymeriad ei hun orau.

Meddai: "Pan yn gweld sgript gyda'r enw Cath Tregenna arno, ’wy’n gwybod na fydd y cymeriad y byddwn i'n ei chwarae yn un dimensiwn, byddai'n fwy diddorol.

"Mae'r ditectif yma lot mwy lliwgar a lot mwy mewn cysylltiad gyda pwy yw e, mwy na thebyg lot mwy fel fi. Rwy'n credu bod hynny'n rhodd weithiau pan fyddwch chi'n cael rhan lle gallwch chi ddefnyddio'r rhannau o bwy ydych chi.

"Mae hi wedi ysgrifennu cymeriad sy'n llawn calon ac enaid - pethau dwi'n cael trafferth gyda nhw mewn bywyd, mae'n stori gariad fforensig, mae'n braf cael cynnig y rhannau yma, dwi'n ddiolchgar."

Mae Cleddau wedi'i leoli yn ne Sir Benfro a dyma waith fwyaf y cyfarwyddwr Siôn Ifan hyd yma. Mae Siôn yn cyfaddef ei fod yn dwli ar ddramâu trosedd, ond mae’n egluro bod hon yn ddrama gyffrous sydd â chymeriadau cryf wrth ei chalon:

"Fe wnaeth y sgript fy nharo i, pa mor bersonol oedd e. Weithiau allen i anghofio am yr achos a'r llofruddiaeth mewn ffordd, wrth i ni ganolbwyntio ar y cymeriadau, dau berson yn llywio'u ffordd trwy amser am y tro cyntaf ers deuddeg mlynedd.

"Yn ogystal â'r ddau brif actor, roedd perfformiadau'r actorion eraill yn anhygoel - chi'n gweld nhw'n mynd i lefydd doeddech chi ddim yn disgwyl, roedd yn bleser i wylio."

Bydd y ddrama chwe rhan i'w gweld ar S4C ar 13 Hydref am 9pm a'r holl benodau ar gael i'w gwylio ar S4C Clic ac iPlayer o'r un dyddiad.

Mae Cleddau yn gyfres wreiddiol wedi’i hysgrifennu gan Cath Tregenna a oedd yn gyffrous i osod drama yn ne orllewin Cymru wedi ysgrifennu ar gyfer sioeau teledu poblogaidd gan gynnwysThree Pines, Law & Order UK, Lewis, DCI BanksaThe Bench.

Cynhyrchir y gyfres gan Blacklight ar gyfer S4C a'i dosbarthu gan Banijay Rights, cangen ddosbarthu fyd-eang Banijay Entertainment, ac fe'i cefnogir gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.

Gwenllian Gravelle yw pennaeth drama S4C ac meddai: "Rwy’ wrth fy modd y bydd y gynulleidfa o'r diwedd yn cael gweld ein drama newydd afaelgar, 'CLEDDAU'. Gyda diolch i'n cyd-gyllidwyr, Banijay a Cymru Greadigol, ni allwn aros i arddangos lleoliad eiconig Doc Penfro, y cast deinamig, a sbin personol ar ddrama drosedd."

Meddai Ben Bickerton o Blacklight: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio yng Nghymru eto gyda thalent Cymreig gwych a stori afaelgar Gymreig. Mae Cleddau yn stori drosedd llawn tyndra a gwefr sy'n ymchwilio'n ddwfn i fywydau personol y ditectifs Ffion a Rick, gan ddatgelu cyfrinachau dinistriol o'r gorffennol, gyda throeon trwstan a throeon cadarnhaol nad sydd yn gadael fynd."

Ychwanegodd Joedi Langley, Pennaeth Dros Dro Cymru Greadigol: "Mae Cleddau yn enghraifft wych arall o'r dramâu cartref o safon uchel sy'n dod allan o Gymru, a'r fformat ffilmio dwyieithog unigryw gefn wrth gefn, sydd nid yn unig yn hyrwyddo ein hiaith Gymraeg ond mae hefyd yn creu cyfleoedd i'r stori gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach drwy ddosbarthwyr rhyngwladol.

"Roeddem yn falch o gefnogi'r cynhyrchiad a greodd sawl cyfle i griw profiadol lleol, a 12 pellach yn cael eu hyfforddi ar set. Mae partneriaethau strategol llwyddiannus, fel Cymru Greadigol ac S4C, yn allweddol i lwyddiant parhaus ein diwydiannau sgrin yma yng Nghymru, ac rydym yn dymuno pob llwyddiant i Cleddau pan fydd yn cyrraedd ein sgriniau y mis hwn."