BYDD Sioe Nadolig Cyw ar daith o amgylch Cymruyn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr.

Fe fydd Cyw a’r criw yn cynnal perfformiadau o’r sioe yn Y Bala, Caernarfon, Wrecsam, Drefach ger Llanelli, Llandysul a Chaerdydd.

Eleni, am y tro cyntaf erioed, bydd sesiynau arbennig ym mhob lleoliad lle bydd gwasanaeth hyrwyddo BSL yn cael ei gynnig.

Yn ymuno â Cyw ar y daith Nadolig bydd Elin, Griff, Cati a Dafydd, cyflwynwyr Cyw.

Hefyd yn cymryd rhan bydd y môr leidr Ben Dant, Bledd y ddraig ddireidus o’rgyfres Dreigiau Cadi, a Siôn Corn!

Dywedodd cyflwynwyr Cyw: “Mae cyffro’r Nadolig wedi cydio ac mae hud y Nadolig yn tanio, ond mae un anrheg hudol angen help gan ffrindiau Sion Corn. Rydym ni’n barod am yr antur…ydych chi?

Gwnewch yn siŵr eich bod chi yn archebu eich tocynnau ar gyfer y daith.”

Bydd tocynnau'n mynd ar werth am 10.00 ddydd Mawrth 8 Hydref.

Ar gyfer pob lleoliad heblaw am Y Bala a Wrecsam, mae modd archebu tocynnau drwy gysylltu â Galeri Caernarfon arwww.galericaernarfon.comneu ffoniwch 01286 685222.

Er mwyn archebu tocynnau ar gyfer Sioe Cyw yn Theatr Derek Williams y Bala ewch i www.theatrderekwilliams.cymru ac ar gyfer Neuadd William Aston, Wrecsam: 01352 344101 /www.williamastonwrexham.com