MI fydd cewri byd perfformio Cymru yn talu teyrnged i'r amryddawn Dewi 'Pws' Morris mewn rhaglen deledu arbennig ar S4C ar nos Sul, 29 Medi.

Bydd Cofio Dewi Pws yn adrodd hanes yr eicon cenedlaethol yng ngeiriau'r rhai oedd agosaf ato, gan gynnwys yr actorion Emyr Wyn a Sharon Morgan, y cerddorion Caryl Parry Jones, Dafydd Iwan, Hefin Elis a Cleif Harpwood, a’r darlledwr a’r sylwebydd rygbi Huw Llywelyn Davies.

Ar 22 Awst eleni bu farw Dewi 'Pws' Morris yn 76 mlwydd oed.

Yn hanu o Dreboeth yn Abertawe, roedd yn gymeriad unigryw ac yn berfformiwr wnaeth gyfraniad aruthrol i ddiwylliant Cymraeg am dros hanner can mlynedd.

Fel aelod o'r bandiau blaenllaw Y Tebot Piws ac Edward H Dafis, daeth Dewi Pws i amlygrwydd cenedlaethol.

Daeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru ym 1971 gyda'r gân Nwy yn y Nen.

Ond gyda dawn actio a direidi naturiol gwnaeth ei farc ar sawl cynhyrchiad eiconig ar lwyfan, fel y cymeriad Y Brenin Ri yn Nia Ben Aur, yn ogystal ag ar y sgrîn.

Roedd yn adnabyddus fel Wayne Harries, un o gymeriadau cyntaf yr opera sebon Pobol y Cwm o 1974 i 1987, ac fel aelod o gast y ffilm gomedi Grand Slam ym 1978.

Bydd cenedlaethau o blant Cymru yn ei gofio'n gynnes fel y Dyn Creu yn y gyfres Miri Mawr ac fel Islwyn Morgan yn yr opera sebon Rownd a Rownd.

Yn genedlaetholwr wrth reddf, gwnaeth Dewi gyfraniad enfawr i Gymru a Chymreictod hefyd, gan ymgyrchu yn gyson dros yr iaith.

Meddai Sharon Morgan: "Roedd ei greadigrwydd e fel bardd, fel cerddor, fel actor i gyd wedi gwreiddio yn y gwleidyddiaeth Cymreig yna a'i fod e'n caru Cymru, ishe dyfodol i Gymru ac yn casáu anghyfiawnder. Ond yn gwneud hyn i gyd mewn ffordd ysgafn gyda gwên ar ei wyneb."

Dywedodd ei gyfaill Huw Llywelyn Davies: “Alla'i byth ddychmygu bod e wedi mynd, achos i fi nath Dewi Pws byth dyfu lan, heb sôn am ein gadael ni."

Daw un o'r cyfraniadau mwyaf emosiynol gan Cleif Harpwood, ei gyd-aelod yn y band Edward H Dafis.

Dywedodd Cleif: "Roedd Dewi yn un o'r bobl 'na 'y chi mond yn dod ar eu traws nhw unwaith falle yn eich bywyd. Fyddai'n ei gofio fe fel cyfaill, fel brawd...byddai'n gweld ei ishe fe yn fawr iawn."