MAE Urdd Gobaith Cymru yn dathlu 10 mlynedd ers sefydlu Adran Brentisiaethau’r mudiad, a degawd o ymbweru 1,000 o bobl ifanc a dysgwyr ledled Cymru.

Adran Brentisiaethau’r Urdd yw un o brif ddarparwyr prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru, gan arbenigo mewn prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog.

Ers 2014 mae’r adran wedi ymrwymo i bontio’r bwlch rhwng addysg a chyflogaeth drwy helpu dros 1,000 o unigolion i ennill profiad gwaith a chymwysterau.

Dros y ddegawd ddiwethaf mae’r adran wedi darparu hyfforddiant i dros 600 o brentisiaid mewn amrywiaeth o sectorau, o chwaraeon ac addysg awyr agored i ofal plant a gwaith ieuenctid.

Prentis amrywiaeth a chynhwysiant datblygu chwaraeon yr Urdd, Yusuf Bille
Prentis amrywiaeth a chynhwysiant datblygu chwaraeon yr Urdd, Yusuf Bille Urdd Gobaith Cymru

Mae cynnydd o 400% mewn Prentisiaethau newydd y flwyddyn ers 2018 (o 35 i 180) gan weithio mewn partneriaeth gyda dros 80 o gyflogwyr yn flynyddol.

Mae’r adran wedi sefydlu HWB Sgiliau Hanfodol ei hun er mwyn sicrhau bod dysgwyr ledled Cymru yn cael yr opsiwn o ddatblygu a diweddaru eu sgiliau Cyfathrebu, Rhifedd a Llythrennedd Digidol trwy gymorth a mentora wedi’i deilwra.

Mae’r HWB yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr hyfforddiant a cholegau ledled Cymru, i sicrhau mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i bawb.

“Rydym yn hynod falch o beth mae’r Adran Brentisiaethau wedi’i gyflawni dros y deng mlynedd diwethaf,” meddai Siân Lewis, prif weithredwr yr Urdd. “Mae ymrwymiad yr adran i ysbrydoli teithiau gyrfa unigolion, cefnogi cyflogwyr i ddatblygu staff cymwysedig ynghyd â diwallu’r angen am weithlu cyfrwng Cymraeg yn parhau i fod wrth wraidd eu gwaith.

Prentis blynyddoedd cynnar a gofal plant wrth ei gwaith
Prentis blynyddoedd cynnar a gofal plant wrth ei gwaith Urdd Gobaith Cymru

“Mae’r wythnos hon yn gyfle i ddathlu a chydnabod gwaith caled ac ymroddiad ein tîm, ein partneriaid, ac yn bwysicaf oll, y prentisiaid a’r dysgwyr eu hunain. Edrychwn ymlaen at y deng mlynedd nesaf o ddarpariaeth a pharhau i feithrin gweithlu'r dyfodol.”

Meddai Matt Burnett, pennaeth gweithrediadau ACT Training: “Mae wedi bod yn wych cael cydweithio gyda’r Urdd ar y cynllun prentisiaeth a bod yn dyst iddo’n datblygu dros y blynyddoedd, gan ehangu ar draws ystod eang o sectorau ledled ein rhwydwaith.

“Mae cynnig prentisiaethau cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr wastad wedi bod yn flaenoriaeth i ni yn ACT wrth i ni ymdrechu i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gymunedau ledled Cymru. Rydym yn ddiolchgar i’r Urdd am y bartneriaeth barhaus.”

Am fwy o wybodaeth am Adran Brentisiaethau Urdd Gobaith Cymru, ewch i urdd.cymru/prentisiaethau