YN dilyn cymeradwyo Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) gan Senedd Cymru, mae Comisiynydd y Gymraeg bellach wedi cyhoeddi pa safonau y bydd angen i gwmnïau dŵr yng Nghymru gydymffurfio â nhw.

Y cwmnïau dŵr fydd yn gorfod cydymffurfio â safonau’r Gymraeg yw Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy. Hyd yma, mae’r ddau gwmni wedi bod yn gweithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Dyma’r tro cyntaf i Gomisiynydd y Gymraeg osod safonau’r Gymraeg ar sefydliadau nad ydynt yn cael eu hystyried yn rai cyhoeddus.

Dywedodd Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg a Chyfarwyddwr Rheoleiddio: “Rydym yn croesawu’r cam arwyddocaol hwn o ddod â chwmnïau dŵr, sydd yn darparu gwasanaethau allweddol i’r cyhoedd yng Nghymru, o dan ddarpariaethau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

“Nod y safonau yw sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru. Fel i ni nodi yn ein hadroddiad diweddar – Cyflawni newid gyda’n gilydd – mae cyfundrefn orfodol safonau’r Gymraeg yn llawer mwyeffeithiol, ac yn arwain at well gwasanaethau a chynnydd gwirioneddol mewn cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd ac mae’n hollbwysig bod yr iaith yn cael ei hybu a’i hwyluso’n amlwg. Drwy roi hysbysiad cydymffurfio i gwmnïau dŵr, ein nod yw gweld nid yn unig cyfleoedd newydd i ddefnyddio'r Gymraeg mewn ystod ehangach o sefyllfaoedd yng Nghymru, ond hefyd cynnydd yn nefnydd y gwasanaethau yma.

“Hoffwn ddiolch i Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy am eu cydweithrediad parod yn ystod y broses o osod safonau’r Gymraeg. Yn unol â’n dull o gyd-reoleiddio, edrychwn ymlaen at gydweithio pellach wrth iddynt baratoi ar gyfer y cyfnod newydd a byddwn yn eu cynorthwyo a’u cynghori ar ran nesaf y daith.”

Dywedodd Prif Weithredwr Dwr Cymru Peter Perry: “Rydym wedi dangos ymrwymiad i'r Gymraeg yn Dŵr Cymru, ac rydym yn llwyr gefnogi cynllun hirdymor y Comisiynydd i sicrhau y gall pobl ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau, ym mhob rhan o Gymru. Mae'n bwysig ein bod yn darparu gwasanaeth dwyieithog rhagorol i’n cwsmeriaid, ac rydym ni yn barod yn weithgar iawn yn y maes yma cyn y dyletswydd cyfreithiol a fydd yn cael ei osod arnom ym mis Awst.”

Ychwanegodd Louise Moir, Arweinydd Profiad Cwsmer a Strategaeth yn Hafren Dyfrdwy: “Fel cwmni sydd yn nghalon Powys a Wrecsam rydym yn llawn ymwybodol o bwysigrwydd gallu cynnig ein gwasanaethau i’n cwsmeriaid yn eu dewis iaith ac mae hynny ar waith eisoes ac rydym wedi ymrwymo i barhau felly. Mae ein cynlluniau iaith yn dystiolaeth amlwg o’n hymrwymiad ac wrth i ni ddod o dan y Safonau yn y dyfodol edrychwn ymlaen i adeiladu ar y llwyfan cadarn hwnnw.”

Bydd y ddau gwmni, Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy, yn gorfod cydymffurfio o fis Awst 2025.