MAE Comisiynydd y Gymraeg wedi galw am weld mwy o weithredu ym maes gofal dementia i siaradwyr Cymraeg.

Mewn papur polisi sydd wedi ei gyhoeddi gan y Comisiynydd, mae’n nodi mai ychydig iawn o gynnydd sydd wedi ei weld ers gwneud argymhellion mewn adroddiad ar y cyd â Chymdeithas Alzheimer’s Cymru yn ôl yn 2018.  

Mae Efa Gruffudd Jones yn nodi, serch hynny, fod rhai camau cadarnhaol wedi eu cymryd yn y blynyddoedd diwethaf ac mae’n croesawu gweld y grŵp dementia a’r Gymraeg yn ail-gychwyn cyfarfod.

Ond mae am weld y momentwm yn cynyddu, fel y gellir gwella ar y ddarpariaeth i gleifion a theuluoedd yn y blynyddoedd sydd i ddod.  

Ymysg argymhellion y Comisiynydd mae:

  • Sicrhau bod y gwerthusiad o Gynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia yn casglu profiadau cleifion a gofalwyr sy’n siarad Cymraeg 
  • Sicrhau bod cynllun gweithredu nesaf Cymru ar gyfer dementia yn gosod y Gymraeg fel elfen greiddiol
  • Yr angen i Lywodraeth Cymru arwain ar lunio cynllun cyflawni penodol ar gyfer datblygu llwybrau gofal dementia cyfrwng Cymraeg, gan flaenoriaethu meysydd fel casglu data, cynyddu ymwybyddiaeth iaith, asesiadau ac adnoddau, a hyfforddiant ieithyddol 

Mae’r Comisiynydd hefyd yn argymell creu swydd benodol ar gyfer arwain ar y Gymraeg a dementia er mwyn sicrhau fod y gwaith yn cael ei gyflawni.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, mae’n hollbwysig gallu cynnig gwasanaethau gofal drwy ddewis iaith y claf: “Mae chwe blynedd bellach wedi pasio ers i ni gyhoeddi adroddiad ar ofal dementia i siaradwyr Cymraeg.

“Mae’r momentwm oedd yn bodoli yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad hwnnw a sefydlu is-grŵp gweithredu wedi arafu’n sylweddol.

“Rwy’n derbyn y bu i’r pandemig fod yn ffactor yn hynny ond mae angen yn awr ail adeiladu’r momentwm er mwyn gallu cynnig gofal dementia addas drwy’r Gymraeg. 

“Rhaid cydnabod fod ‘na rai camau strategol a statudol arwyddocaol wedi eu cymryd dros y blynyddoedd diweddar.

“Mae Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol bellach dan ddyletswydd i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg.

“Mae cynllun Mwy na Geiriau newydd Llywodraeth Cymru yn cynnwys nifer helaeth o gamau gweithredu sydd yn ategu gofynion safonau’r Gymraeg, a gyda’i gilydd yn gosod cyfeiriad clir i’r sector iechyd a gofal yng Nghymru.

“Mae’r ffaith fod y grŵp dementia a’r Gymraeg wedi cychwyn cyfarfod eto hefyd i’w groesawu’n fawr, ac rwyf yn gobeithio gweld y grŵp hwn yn cyfrannu at broses Llywodraeth Cymru yn dylunio cynllun dementia newydd ar gyfer Cymru.

“Ond araf yw’r symud ac wrth i ni nodi ein hargymhellion rydym yn annog hefyd creu swydd benodol er mwyn arwain ar y gwaith hyn achos dyna’r unig ffordd, yn fy marn i, y gallwn symud ymlaen yn briodol ac yn amserol.”