MAE’R awdur poblogaidd Bethan Gwanas yn cyhoeddi nofel newydd i ddysgwyr. Mae Strimio yn rhan o’r gyfres Amdani ac yn addas i ddysgwyr sydd ar ddiwedd y cwrs lefel Mynediad.

Dyma nofel gyntaf Bethan ers ennill Gwobr Mary Vaughan Jones yn 2024 am ei chyfraniad arbennig i faes llyfrau plant a phobl ifanc.

Mae hi wedi cyhoeddi nifer o lyfrau i ddysgwyr Lefel Sylfaen gan gynnwys anturiaethau Blodwen Jones ac Yn ei Gwsg ar gyfer dysgwyr.

Nofel ddoniol a chynnes yw Strimio am Hywel, dyn ifanc 18 oed.

Doedd Hywel ddim yn hoffi’r ysgol. Ond roedd e’n mwynhau helpu Taid yn yr ardd. Ar ôl i Taid farw, mae’n cael gwaith strimio yn y fynwent ac mae pethau’n newid.

Meddai Bethan Gwanas: “Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer Strimio gan Jo Knell, perchennog Siop lyfrau Cant a Mil yng Nghaerdydd sydd wedi dysgu Cymraeg ei hun.

“Mi wnaeth hi fy atgoffa nad yw pawb sy’n dysgu Cymraeg yn fenywaidd, yn ddosbarth canol nac wedi ymddeol.

“Felly mi benderfynais i sgwennu am ddyn ifanc 18 oed sy’n strimio mewn mynwentydd.”

Ychwanegodd: “Dwi wedi gwneud tipyn o waith strimio fy hun dros y blynyddoedd ac yn gwybod am rai o’r problemau.

“A dwi’n nabod dipyn o bobl sy’n strimio yn broffesiynol.

“Ro’n i’n digwydd sôn wrth Kevin, gŵr fy nghyfnither, Einir, ac mi ddywedodd yntau ei fod o’n strimio’n rheolaidd yn eu mynwent leol nhw yn Llangernyw.

“‘Unrhyw beth od neu ddoniol wedi digwydd?’ gofynnais. ‘Wel, mi welais i ysbryd…’ atebodd Kevin. A dechreuodd y llyfr ddatblygu yn araf bach.”

Mae Bethan Gwanas yn awdur ac yn diwtor Cymraeg o’r Brithdir, ger Dolgellau. Mae hi’n awdur 52 o lyfrau.

Meddai: “Dwi’n cael ymateb da iawn gan ddysgwyr i fy nofelau i.

“Roedd Bywyd Blodwen Jones yn gwerthu’n anhygoel o dda am flynyddoedd!

“Mae Yn ei Gwsg wedi clicio efo dysgwyr hefyd; dw i wedi cael gwahoddiad i siarad am y llyfr efo grwpiau darllen ugeiniau o weithiau. Maen nhw’n hoffi’r hiwmor, meddan nhw.”

Lansiwyd cyfres Amdani yn 2018, prosiect a welodd gweisg Cymru yn cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Chyngor Llyfrau Cymru i ddatblygu a chyhoeddi llyfrau darllen cyffrous yn arbennig at gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Erbyn heddiw mae yna dros 40 o gyfrolau i gyd.

Mae cyfres Amdani eisoes yn boblogaidd ac wedi meithrin darllenwyr brwd.

Mae geirfa ar bob tudalen ac yng nghefn pob llyfr. Y gobaith yw y bydd llyfrau fel straeon Bethan Gwanas yn annog darllenwyr hen a newydd i ddatblygu eu Cymraeg.

Graddiodd Bethan mewn Ffrangeg yn Aberystwyth cyn gwneud amryfal swyddi yn cynnwys gweithio gyda'r VSO yn Nigeria, dod o hyd i 'extras' ar gyfer Rownd a Rownd, dysgu plant Cymru sut i ganŵio a dringo yng Nglan-llyn a chyflwyno rhaglenni garddio a theithio.

Erbyn hyn, mae wedi cyhoeddi dros 40 o lyfrau amrywiol ar gyfer plant, pobl ifanc, oedolion iaith gyntaf a dysgwyr. Mae'n caru cŵn, coginio a beicio ac yn casau gwaith tŷ.

Mae Strimio gan Bethan Gwanas ar gael nawr (£5.99, Y Lolfa).