MAE’R awdur a’r darlithydd Rhianedd Jewell wedi cyhoeddi ei nofel gyntaf – nofel ddechreuodd hi ei hysgrifennu ar y ffôn pan oedd ei mab yn fabi bach.

Mae Tempo yn stori afaelgar a theimladwy am yr hyn a all dyfu o gyfeillgarwch annisgwyl.

Daeth y nofel yn agos i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

Mae Elis a Mrs Jenkins yn ceisio ffoi rhag cysgodion gwahanol. Ond wrth i’r bachgen deg oed fentro i ardd ei gymdoges, mae’n agor un gât a dwy galon ac yn datgelu sawl cyfrinach.

Meddai Rhianedd Jewell sy’n Bennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Roeddwn i wedi mwynhau ysgrifennu’n greadigol pan oeddwn i’n iau ond heb wneud dim byd mawr ers i mi adael yr ysgol.

“Pan gafodd fy mhlant eu geni, fe wnaeth hynny ailgynnau fy nychymyg a daeth cyfle annisgwyl i mi ddechrau ysgrifennu eto.

“Tra oedd fy mab ‘fenga yn fabi, byddwn i’n treulio oriau hir gydag e’n cysgu arna i a minnau’n methu cysgu na symud na gwneud dim!

“Felly penderfynais ddechrau ysgrifennu ar fy ffôn, ac yn raddol fach, fe luniais i’r nofel hon.”

Mae Rhianedd yn byw yn Aberystwyth gyda’i gŵr, Pete, a’u meibion, Heulyn ac Anian.

Daw’n wreiddiol o Ystrad Mynach ger Caerffili.

Astudiodd Ffrangeg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Rhydychen cyn cwblhau doethuriaeth mewn Llenyddiaeth Eidaleg.

Enillodd Fedal Dillwyn Cymdeithas Ddysgedig Cymru (y Celfyddydau Creadigol a’r Dyniaethau) yn 2018 am ei gwaith ym maes astudiaethau cyfieithu.

Ychwanegodd Rhianedd: “Daeth y syniad i ddefnyddio tempos gwahanol i’r penodau o fy niddordeb yn yr Eidaleg a’r dylanwadau cerddorol yn fy mywyd.

“Dysgais i’r Eidaleg yn y brifysgol a ches i fy magu gan deulu cerddorol iawn. Roeddwn i’n awyddus i chwarae ag ystyron ychwanegol y geiriau a sut y gallai hynny osod fframwaith i stori ddiddorol ac amrywiol.”

Mae’r Archdderwydd Mererid Hopwood yn disgrifio Tempo fel “Consierto o nofel sy’n cwmpasu tyndra a thynerwch, creulondeb a chariad.”

Mae Annes Glynn, un o feriniaid cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn 2024, yn ei chanmol fel “Nofel grefftus â chymeriadau diddorol sydd wir yn cydio.”

Mae Tempo gan Rhianedd Jewell ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).