MAE Comisiynydd y Gymraeg wedi nodi blaenoriaethau penodol yn ei chynllun strategol diweddaraf er mwyn canolbwyntio ar y materion allai wneud y gwahaniaeth mwyaf i ffyniant y Gymraeg.
Bydd y cynllun pum mlynedd newydd gaiff ei gyhoeddi heddiw yn para tan ddiwedd cyfnod Efa Gruffudd Jones yn y swydd.
Plant a phobl ifanc, Iechyd a gofal, a Chymraeg yn y gweithle yw’r tair blaenoriaeth sydd wedi eu hadnabod yn y cynllun.
Drwy gydol y cyfnod hwn, bydd y Comisiynydd yn gweithio i gryfhau darpariaeth a gwasanaethau Cymraeg yn y meysydd hyn, gan gydweithio’n agos â phartneriaid allweddol.
Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, mae’r cyfnod nesaf yn allweddol i’r iaith: “Rydym yn byw mewn cyfnod o gyfyngiadau ariannol heriol i’r sector cyhoeddus a nifer o sectorau eraill yng Nghymru.
“Felly, mae sicrhau bod sefydliadau yn rhoi y Gymraeg wrth galon eu gweithredu yn bwysicach nag erioed. Rwyf am i ni fod yn sefydliad hyblyg, dychmygus a mentrus dros y cyfnod nesaf.
“Mae gen i a fy swyddfa gyfraniad pwysig i’w wneud i strategaeth genedlaethol Cymraeg 2050, ac mae’n hanfodol ystyried y cyfraniad hwn ochr yn ochr â gwaith mewn meysydd polisi allweddol fel addysg, a’r strategaethau ehangach ar gyfer hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar lefel genedlaethol, leol a chymunedol.
“Bydd angen cydweithio blaengar rhwng ystod eang o sefydliadau a phartneriaid er mwyn plethu amrywiol elfennau o gynllunio ieithyddol ynghyd. Edrychaf ymlaen at gydweithio ag amryw o bartneriaid i wireddu’r weledigaeth hon.”
Dywedodd Sarah McCarty, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, fod rhoi pwyslais ar y maes iechyd a gofal cymdeithasol i’w groesawu: “Mae’r gallu i dderbyn gofal a chymorth yn eich dewis iaith yn rhywbeth yr ydyn ni’n credu yn angerddol ynddo. Yn ddiweddar, fe wnaethom ni gynnal cynhadledd ar yr Iaith Gymraeg ac Urddas mewn Gofal i rannu dysgu ac i ddathlu ymarfer cadarnhaol.
“Mae lle i wella ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg a’r sector gofal cymdeithasol i gefnogi’r weledigaeth sy’n cael ei hamlinellu yn y cynllun strategol ac i wella gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth.”
Mae Bil y Gymraeg ac Addysg sydd ar daith drwy’r Senedd ar hyn o bryd yn cynnig posibiliadau cryf o safbwynt gwella sgiliau Cymraeg ein plant a’n pobl ifanc yn ein hysgolion ond mae angen sicrhau llwybr i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle ar ôl iddynt adael yr ysgol.
Mae hyn yn cael ei groesawu gan Dr Mandy James Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog TUC Cymru: “Mae sicrhau bod pobl ifanc yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith ar ôl gorffen eu haddysg yn hanfodol.
“Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’n hundebau llafur cysylltiol ac aelodau i hyrwyddo’r manteision amlwg o ddatblygu gweithleoedd a sgiliau dwyieithog.
“Mae’r sgiliau yma’n hanfodol i warchod a diogelu swyddi a gweithlu dwyieithog yn ein cymunedau ac ar gyfer creu swyddi newydd.”
I gyd-fynd â’r cynllun newydd mae ffilm newydd wedi ei chynhyrchu sydd yn amlinellu amcanion a blaenoriaethau’r cynllun. Un sydd i’w weld yn y fideo yw Yusef Yassine, disgybl 16 oed yn ysgol Glantaf, Caerdydd, ac roedd yn falch o allu cyfrannu i’r cynllun,
“Rwyf yn defnyddio’r Gymraeg yn gyson yn yr ysgol ond mae angen mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn y gymuned tu allan i’r ysgol ac yn y byd gwaith. Rwy’n falch o weld pobl ifanc yn cael lle amlwg yn y cynllun, a gobeithio y gallaf i a fy ffrindiau barhau i ddefnyddio’r iaith yn ein bywyd bob dydd.”
Mae Efa Gruffudd Jones yn aml yn pwysleisio fod plant a phobl ifanc yn greiddiol i sicrhau fod y Gymraeg yn iaith fyw sydd i’w chlywed yn gyson ar lawr gwlad.
Gan groesawu’r ffocws ar blant a phobl ifanc, dywedodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru: "Mae iaith a hunaniaeth yn rhai o hawliau sylfaenol plant. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth gydag Efa i sicrhau bod yr hawliau hyn yn dod yn realiti i genhedlaeth o blant a phobl ifanc yng Nghymru."
Mae’r cynllun ei hun hefyd yn amlinellu sut y bydd y Comisiynydd yn defnyddio pwerau rheoleiddio yn ogystal â gwaith hybu, dylanwadu a chyfathrebu er mwyn ceisio gwireddu’r amcanion a’r nodau uchelgeisiol.