MAE Prif Weinidog Cymru, y Farwnes Eluned Morgan wedi talu teyrnged i Dafydd Elis-Thomas, y gwleidydd uchel ei barch, gan ei ddisgrifio fel ‘un o gewri ein cenedl’.
Bydd rhaglen arbennig i gofio Dafydd Elis-Thomas ymlaen ar S4C nos Sul hwn, ynddi mae’r Prif Weinidog yn canmol rôl Dafydd wrth arloesi yn natblygiad gwleidyddol Cymru.
Meddai: “Mi fydda’ i yn ei gofio fel un o gewri ein cenedl. Dyn oedd yn angerddol tuag at ei wlad, yn angerddol tuag at yr iaith a diwylliant. Heb Dafydd dwi ddim yn meddwl bydden ni’n byw yn y Gymru ni’n byw ynddi heddiw.”
Mae gyrfa Dafydd Elis-Thomas yn cael ei diffinio gan ei ymroddiad gref i’w wlad a’i angerdd at yr iaith Gymraeg. Roedd yn ffigwr allweddol yn yr ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg ac, yn fwyaf arbennig, yr ymdrech dros ddatganoli i Gymru.
Yn y rhaglen arbennig hon mae Rhodri Williams, cyfaill oes i Dafydd a chyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn myfyrio ar foment wnaeth ddiffinio ei yrfa.
Meddai: “Roedd Dafydd wedi bod yn ymgyrchu dros hwn ar hyd ei oes fel oedolyn, dyma oedd penllanw ei waith gwleidyddol. Fe ddaeth â’i holl brofiad o Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi i’r Cynulliad – fyddai neb arall wedi gallu gwneud.”
Gyda chyfraniadau gan nifer o wleidyddion blaenllaw Cymru, gan gynnwys Dafydd Wigley, Rhun ap Iorwerth, cydweithwyr a ffrindiau, mae’r rhaglen yn rhannu golwg fyfyriol ar ei yrfa ryfeddol yn San Steffan, Tŷ’r Arglwyddi a Chynulliad Cenedlaethol Cymru (sydd yn cael ei galw’n Senedd erbyn heddiw).
Wrth siarad am ei gyfnod fel Llywydd cyntaf y Cynulliad, meddai’r Athro Laura McAllister, cyfaill ac academydd gwleidyddol: “Roedd Dafydd yn deall bod rôl y Llywydd yn un newydd iawn. Roedd e’n defnyddio rôl y Llywydd i wthio yn erbyn y sefydliad ac i drio creu rhyw fath o le i wleidyddiaeth wahanol.”
Mae’r rhaglen hefyd yn rhannu hanesion y person y tu ôl i’r llwyddiannau a’r buddugoliaethau gwleidyddol. Rydym yn gweld ffigwr angerddol, deallusol ac yn ddigyfaddawd o feiddgar gyda’i ddylanwad yn parhau i lunio gwleidyddiaeth Cymru heddiw.
Cofio Dafydd Elis-Thomas
Nos Sul, 16 Mawrth 20.30